Neidio i'r prif gynnwy

Pelfis yr Aren Ymledol

Mae’r wybodaeth hon ar eich cyfer chi os yw sgan anomaledd y ffetws yn dangos bod gan eich babi belfis yr aren ymledol (renal pelvis dilatation neu RPD)

Mae’r gwybodaeth yn berthnasol  os mai RPD yw’r unig ganfyddiad annisgwylar y sgan.  


 

 

Cynnwys

― Pelfis yr aren ymledol
Beth yw RPD?
― Beth fydd yn digwydd nesaf?
― Pa ofal fydd yn cael ei gynnig i mi?
― Pa wybodaeth y bydd y sgan nesaf yn ei roi i mi?
― Beth mae’n ei olygu os bydd fy mabi angen apwyntiad dilynol ar ôl iddo gael ei eni?
― Mwy o wybodaeth

 

Mae pob menyw feichiog yng Nghymru yn cael cynnig sgan anomaledd y ffetws pan fydd rhwng 18 ac 20 wythnos yn feichiog. Mae’r sgan yn ffordd o wirio ei bod yn ymddangos bod eich babi'n datblygu yn ôl y disgwyl. Mae hyn yn golygu y gall ddangos canfyddiadau annisgwyl y byddai angen eu gwirio wedyn gan sganiau pellach.  

Pelfis yr aren ymledol

Gelwir pelfis yr aren ymledol yn RPD hefyd. Canfyddir RPD mewn llai nag 1 o bob 100 (llai na 1%) o sganiau anomaleddau a wneir yng Nghymru.

Beth yw RPD?

Y man yn aren eich babi ble y mae wrin yn casglu pelfis yr aren. Os bydd pelfis aren yn edrych yn fwy llydan (yn fwy ymledol) na’r arfer, bydd y sonograffydd yn ei fesur. Os bydd yn mesur mwy na 5 milimedr (mm), ystyrir ei fod yn ymledol. Gellir canfod RPD mewn un aren (unochrog) neu yn y ddwy aren (dwyochrog).

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Cewch weld bydwraig sy’n arbenigo mewn sgrinio cyn-geni neu eich meddyg yn yr ysbyty (obstetregydd) a fydd yn esbonio’r gofal y byddwch yn cael ei gynnig nesaf.

Pa ofal fydd yn cael ei gynnig i mi?

Os bydd yr RPD yn mesur rhwng 5.1mm a 10mm, cewch gynnig sgan arall yn ystod wythnosau 30 a 32 o’ch beichiogrwydd.

Os yw’n mesur 10.1mm neu fwy, yr enw ar hyn yw hydroneffrosis a chewch apwyntiad gydag obstetregydd a fydd yn trafod hyn yn fwy manwl gyda chi. Cewch gynnig sgan arall hefyd yn ystod wythnosau 30 a 32 o’ch beichiogrwydd.

Pa wybodaeth y bydd y sgan nesaf yn ei roi i mi?

Os bydd y mesuriad nesaf yn 7mm neu lai

Os bydd y mesuriad ar ôl y sgan nesaf yn 7mm neu lai, ni fydd angen unrhyw driniaeth arall. Yng Nghymru, mae hyn i’w weld mewn tuag 8 o bob 10 (80%) babi. Mae gan y babanod hyn yr un siawns o fynd i’r ysbyty gyda phroblem ar yr arennau yn ystod plentyndod â babanod heb RPD ar y sgan anomaledd.

Os bydd y mesuriad nesaf yn fwy na 7.1mm

Os bydd y sgan 30 i 32 wythnos yn dangos mesuriadau RPD sy’n fwy na 7mm, bydd apwyntiad yn cael ei drefnu i chi drafod hyn gyda meddyg a fydd yn ei esbonio hyn yn fwy manwl.

Os bydd y sgan 30 i 32 wythnos yn dangos mesuriadau RPD sy’n fwy na 7mm, bydd apwyntiad yn cael ei drefnu i chi drafod hyn gyda meddyg a fydd yn ei esbonio hyn yn fwy manwl.

Yng Nghymru, bydd pelfis yr aren yn parhau i fod yn ymledol mewn tua 2 o bob 10 (20%) babi sydd â RPD ar y sgan anomaledd. Mae’r risg y bydd yn rhaid i’r babanod hyn fynd i’r ysbyty gyda phroblem ar yr arennau yn ystod plentyndod tua 20 gwaith yn fwy nag ar gyfer babanod heb RPD ar y sgan anomaledd (38 o bob 100 o blant o gymharu â 2 o bob 100 o blant). Bydd y meddyg yn trefnu i bediatregydd (meddyg babanod) weld eich babi ar ôl iddo gael ei eni.

Beth mae’n ei olygu os bydd fy mabi angen apwyntiad dilynol ar ôl iddo gael ei eni?

Gall y pediatregydd gynnig gwrthfiotigau i’ch babi er mwyn atal haint posibl. Bydd hefyd yn trefnu sgan arall pan fydd eich babi tua pythefnos oed i weld a yw maint y pelfis arennol yn parhau i fod yn lletach (wedi ymledu).

Mwy o wybodaeth

Gallwch gael mwy o wybodaeth gan fydwraig yr ysbyty sy’n arbenigo mewn sgrinio cyn-geni neu feddyg yr ysbyty (obstetregydd).

Antenatal Results and Choices (ARC)

Llinell gymorth: 0845 077 2290 neu  0207 713 7486 o ffôn symudol

E-bost: info@arc-uk.org

Gwefan: www.arc-uk.org

Defnyddiwyd gwybodaeth gan CARIS (Gwasanaeth Cofrestr a Gwybodaeth Anomaleddau Cynhenid) a’r Astudiaeth o Famau a Babanod Cymru yn y daflen hon i ddisgrifio sut y gall RPD fod yn bresennol yn eich babi.