Mae'r wybodaeth hon ar eich cyfer chi os mai mesuriad bach yw'r unig ganfyddiad annisgwyl ar eich sgan anomaledd y ffetws. Bydd eich bydwraig neu feddyg ysbyty (obstetrydd) yn esbonio'n fanylach pa brofion a gofal y gallai fod eu hangen arnoch. Mae pob menyw feichiog yng Nghymru yn cael cynnig sgan anomaledd y ffetws pan fyddan nhw rhwng 18 ac 20 wythnos o feichiogrwydd.
Mae'r sgan yn gwirio a yw'n ymddangos bod eich babi yn datblygu yn ôl y disgwyl. Golyga hyn y gallai ddangos canfyddiadau annisgwyl, megis mesuriad bach, ac efallai y cynigir profion pellach i chi.
Cynwwys
― Beth yw mesuriad bach?
― Beth fydd yn digwydd nesaf?
― Pa brofion y gellir eu cynnig i mi?
― Sganiau uwchsain
― Prawf gwaed ar gyfer heintiau
― MRI
― Profion genetig
― Rhagor o wybodaeth
― Ysmygu
Yn ystod y sgan anomaledd y ffetws, maent yn mesur maint pen eich babi, bol (abdomen) ac asgwrn y glun (ffemwr) i weld sut mae'n tyfu. Bydd y sonograffydd sy'n cynnal eich sgan yn gwirio a yw'r mesuriadau hyn o fewn yr ystod ddisgwyliedig. Os bydd unrhyw fesuriadau yn llai na'r disgwyl, byddant yn dweud wrthych pa fesuriad sy'n fach.
Yn y rhan fwyaf o achosion pan mai mesuriad bach yw'r unig ganfyddiad annisgwyl ar y sgan anomaledd y ffetws, bydd eich babi yn tyfu ac yn datblygu yn ôl y disgwyl.
Mae'r rhestr isod yn dangos rhai cyflyrau a chanlyniadau sydd wedi'u canfod mewn babanod â mesuriad bach. Bydd y meddyg neu'r fydwraig yn trafod pa rai o'r canfyddiadau hyn a allai fod yn gysylltiedig â mesuriad bach eich babi.
Bydd y meddyg neu'r fydwraig yn esbonio pa ofal a gynigir i chi. Byddant yn esbonio mwy am y mesuriad bach ac yn trafod y profion y gallwch eu cael, sut y cânt eu gwneud a phryd y gallwch eu cael.
Byddant yn adolygu'r gofal a gawsoch yn ystod eich beichiogrwydd hyd yn hyn. Byddant hefyd yn adolygu'r profion sgrinio a gawsoch a chanfyddiadau eich sgan. Byddant yn esbonio mwy am ganfyddiadau'r sgan a sut y gellir eu cysylltu â chyflyrau eraill, ac am brofion pellach y gellir eu cynnig i chi.
Mae rhai menywod yn penderfynu peidio â chael unrhyw brofion pellach. Bydd y meddyg neu'r fydwraig yn cefnogi pa bynnag ddewis a wnewch. Gallwch ofyn cwestiynau iddyn nhw sy'n bwysig i chi. Efallai y byddwch am gael apwyntiad arall i ofyn cwestiynau pellach. Efallai y byddwch am i'ch partner neu rywun arall ddod gyda chi i gael cymorth. Efallai y byddwch am gael mwy o amser i feddwl cyn penderfynu beth i'w wneud nesaf.
Yn dibynnu ar ba mor fach yw mesuriad eich babi, neu ganlyniadau eich profion, efallai y cewch eich atgyfeirio at arbenigwr meddygaeth ffetws am adolygiad pellach ac i gynllunio unrhyw ofal dilynol. Gall yr apwyntiad hwn fod mewn ysbyty gwahanol.
Bydd hyn yn dibynnu ar:
Efallai y cewch gynnig sgan arall i fonitro'r mesuriad. Efallai y cynigir sganiau rheolaidd i chi hefyd yn ystod gweddill eich beichiogrwydd i wirio twf eich babi.
Efallai y cewch gynnig prawf gwaed i weld a ydych wedi cael haint yn ddiweddar, fel sytomegalofeirws (CMV), siffilis, rwbela neu docsoplasmosis. Os bydd y prawf gwaed yn dangos eich bod wedi cael haint yn ddiweddar, efallai bod y feirws wedi cael ei gludo ar draws y brych ac wedi heintio eich babi. Gallai hyn achosi niwed.
Os bydd eich prawf gwaed yn dangos eich bod wedi cael un o'r heintiau hyn, efallai y cewch gynnig amniosentesis i weld a yw wedi trosglwyddo i'ch babi. Mae gan Sgrinio Cyn Geni Cymru ragor o wybodaeth am amniosentesis ar eu tudalen we 'Mae'r wybodaeth hon ar eich cyfer chi os ydych chi wedi cael cynnig profion pellach am amheuaeth o gyflyrau cromosomaidd neu enetig'. Gall eich bydwraig roi copi o hwn i chi.
Os bydd yr ysbyty yn cynnig eich atgyfeirio at arbenigwr meddygaeth ffetws, efallai y bydd yr arbenigwr yn trafod profion pellach, fel y canlynol.
Os yw pen eich babi yn mesur yn fach yn ystod eich sgan anomaledd efallai y cynigir sgan MRI i chi yn ddiweddarach yn eich beichiogrwydd i weld sut mae ei ymennydd yn datblygu.
Efallai y cewch gynnig amniosentesis i brofi'r hylif amniotig (yr hylif sy'n amgylchynu'r babi yn y groth) i weld a oes gan eich babi gyflwr genetig.
Efallai y byddwch am feddwl am yr hyn y gallech ei wneud os bydd canlyniadau'r prawf yn dangos bod gan eich babi gyflwr genetig. Bydd rhai menywod am baratoi eu hunain ar gyfer yr enedigaeth gan wybod bod gan eu babi gyflwr. Efallai y bydd menywod eraill yn penderfynu dod â'r beichiogrwydd i ben.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am amniosentesis ar dudalen we Sgrinio Cyn Geni Cymru 'Mae'r wybodaeth hon ar eich cyfer chi os ydych wedi cael cynnig profion pellach ar gyfer cyflyrau cromosomaidd neu enetig a amheuir'. Gall eich bydwraig roi copi o hwn i chi.
Gallwch gael gwybodaeth fwy cyffredinol gan y meddyg ysbyty neu'r fydwraig sy'n arbenigo mewn sgrinio cyn geni.
GIG 111 Cymru
Mae amddiffyn eich babi rhag mwg tybaco yn un o'r pethau gorau y gallwch chi ei wneud i roi dechrau iach mewn bywyd iddo. Gall fod yn anodd rhoi'r gorau i ysmygu, ond nid yw byth yn rhy hwyr i roi'r gorau iddi. Dewch o hyd i wybodaeth a chymorth yn Helpa Fi I Stopio.