Yn ystod eich beichiogrwydd, cewch gynnig nifer o brofion sgrinio gwahanol. Yma cewch wybodaeth am y profion sgrinio, a fydd yn eich helpu i benderfynu a ydych am gael rhai, neu bob un, o'r profion.
Byddwch yn cael y cyfle i siarad â’ch bydwraig am y profion.
Mae eich rhif GIG yn unigryw i chi ac mae’r rhif hwn yn eich adnabod ar systemau cyfrifiadurol y GIG. Os oes gennych gopi o’ch rhif GIG, sicrhewch fod y rhif ar gael pan fyddwch yn gweld y fydwraig am y tro cyntaf neu’r tro cyntaf y byddwch yn mynd i’r ysbyty ar gyfer eich gofal mamolaeth.
Mae'r animeiddiad hwn yn rhoi gwybodaeth am y profion sgrinio a gynigir i chi yn ystod beichiogrwydd i chi a'ch babi.
Gall profion sgrinio helpu i ganfod rhai o’r cyflyrau sydd gennych chi neu’ch babi. Maent yn dangos pa siawns sydd bod y cyflwr gennych chi neu’r babi.
Nid ydynt yn dangos yn sicr a oes gennych chi neu’r babi y cyflwr a gaiff ei sgrinio.
Mae’r profion a gynigir yn cynnwys profion gwaed a sganiau uwchsain.
Weithiau, gall y prawf gwaed neu’r sgan uwchsain roi canlyniad aneglur ac efallai y byddwch yn cael cynnig rhagor o brofion.
Os yw canlyniad prawf sgrinio’n dangos ei bod yn fwy tebygol eich bod chi, neu’ch babi, â chyflwr penodol, efallai y cewch gynnig prawf sgrinio arall neu brawf mewnwthiol, er enghraifft amniosentesis. Mae profion mewnwthiol yn rhoi canlyniadau mwy sicr, ond mae siawns fach y gallant achosi camesgoriad. Am y rheswm hwn, dim ond pan fo siawns uwch o gael cyflwr y cynigir y profion hyn. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am brofion mewnwthiol yn adran 7 o’r llyfryn hwn.
Gall profion sgrinio fethu canfod y cyflwr y maent yn sgrinio amdano. Gall y fydwraig ddweud wrthych pa mor aml y gall hyn ddigwydd gyda’r profion.
Caiff y profion sgrinio canlynol eu cynnig i chi.
Cewch gynnig profion gwaed i ganfod:
Gellir cael yr holl brofion hyn ar yr un pryd. Gallwch ddewis pa brofion a gynhelir. Bydd eich bydwraig yn dweud wrthych lle y gellir cynnal y profion.
Byddwch yn cael cynnig y canlynol hefyd
Cewch gynnig sgan uwchsain i weld:
Gallwch gael sgan anomaledd y ffetws i weld y ffordd y mae eich babi’n datblygu.
Eich dewis chi yw sgrinio. Gall fod yn anodd penderfynu pa brofion i’w cael. Nid yw rhai menywod am wybod a oes ganddynt unrhyw gyflyrau iechyd a allai effeithio arnyn nhw neu eu babi. Bydd eraill am wybod a oes ganddynt unrhyw gyflyrau iechyd a allai effeithio arnyn nhw neu eu babi er mwyn iddynt allu gwneud penderfyniadau ar driniaeth neu, os oes canfyddiadau heb esboniad, i baratoi ar gyfer yr enedigaeth neu ystyried dod â’r beichiogrwydd i ben.
Cymerwch amser i feddwl cyn i chi benderfynu. Gallwch siarad am y profion â’ch bydwraig, a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych. Pan fyddwch wedi dewis pa brofion rydych am eu cael, bydd y fydwraig yn gwneud trefniadau ar eich rhan.
Bydd eich bydwraig yn dweud wrthych lle y gallwch gael y profion.
Bydd eich bydwraig yn dweud wrthych sut a phryd y byddwch yn cael canlyniadau’ch profion.
Mae eich rhif GIG yn unigryw i chi ac mae’r rhif hwn yn eich adnabod ar systemau cyfrifiadurol y GIG. Os oes gennych gopi o’ch rhif GIG, sicrhewch fod y rhif ar gael pan fyddwch yn gweld y fydwraig am y tro cyntaf neu’r tro cyntaf y byddwch yn mynd i’r ysbyty ar gyfer eich gofal mamolaeth.
Cofiwch
Gallwch newid eich meddwl am eich dewisiadau. Os penderfynwch gael prawf ac yna newid eich meddwl cyn ei gael, cofiwch ddweud wrth eich bydwraig fel y gall wneud nodyn yn eich cofnodion mamolaeth.
Gall profion sgrinio golli'r cyflwr y maent yn cael eu sgrinio amdano. Gall y fydwraig ddweud wrthych mor aml y gall hyn ddigwydd gyda'r profion.