Os yw eich prawf wedi dangos bod gennych siawns uwch o gael babi â syndrom Down (T21) neu siawns uwch o gael babi â syndrom Edwards (T18) neu Patau (T13) (hynny yw, siawns o rhwng 1 mewn 2 ac 1 mewn 150), bydd eich bydwraig neu’ch obstetregydd wedi esbonio canlyniad eich prawf i chi yn fanwl, gan gynnwys eich siawns unigol chi. Cofiwch, po isaf yw’r rhif, yr uchaf yw’r siawns. Felly, er enghraifft, mae 1 mewn 80 yn siawns uwch o gael babi â syndrom Down o gymharu ag 1 mewn 140.
Mae rhwng 2% a 3% (dwy a thair mewn 100) o fenywod sydd wedi cael prawf sgrinio yn cael canlyniad sy’n dangos bod ganddynt siawns uwch o gael babi ag un o’r cyflyrau hyn
Os ydych yn disgwyl gefeilliaid byddwch wedi cael trafodaeth fanwl gydag obstetregydd neu fydwraig cyn cael eich prawf cyfunol. Mae hyn oherwydd bod y penderfyniadau yn fwy cymhleth gan fod llawer o faterion i’w hystyried. Bydd y drafodaeth wedi cynnwys gwybodaeth am y math o efeilliaid rydych yn eu cael a beth allai hynny ei olygu o ran y siawns y bydd gan un neu’r ddau fabi y cyflyrau y sgriniwyd amdanynt.
Gan fod gennych ganlyniad siawns uwch, eich dewisiadau yw:
Dim rhagor o brofion
Bydd rhai menywod eisiau paratoi eu hunain ar gyfer yr enedigaeth gan wybod bod gan eu babi neu eu babanod gyflwr cromosomaidd, a bydd eraill yn penderfynu peidio â pharhau â’r beichiogrwydd.
Gallwch drafod a ydych eisiau cael prawf cyn geni anfewnwthiol (NIPT) neu brawf mewnwthiol.
Efallai y byddwch yn wynebu penderfyniadau anodd ar ôl prawf mewnwthiol ac mae angen i chi fod yn ymwybodol o’r rheini ymlaen llaw. Er enghraifft, os ydych yn feichiog gyda gefeilliaid, ac mae’r prawf mewnwthiol (samplu filws corionig (CVS) neu amniosentesis) yn dangos mai dim ond un babi sydd â’r cyflwr, gall y penderfyniad i barhau â’r beichiogrwydd achosi cymysgedd o emosiynau. Gall dod â’r beichiogrwydd i ben ar gyfer y babi â’r cyflwr achosi i chi gamesgor y gefell arall hefyd. Bydd eich obstetregydd yn trafod hyn gyda chi yn fanylach.