Bydd y prawf QF-PCR yn chwilio am y tri chyflwr cromosom canlynol yn y babi.
Ni fydd yn dweud wrthych beth yw rhyw y babi.
Os bydd eich prawf QF-PCR yn cael ei wneud am unrhyw reswm arall, bydd eich obstetregydd neu gynghorydd geneteg yn trafod y cyflyrau penodol y bydd y prawf yn rhoi canlyniadau i chi ar eu cyfer.
Os ydych wedi cael prawf amniosentesis, bydd eich canlyniad QF-PCR ar gael o fewn tri diwrnod calendr fel arfer.
Ni fydd tua 4% (1 mewn 25) o brofion amniosentesis yn gallu rhoi canlyniad o fewn y cyfnod hwn. Yn yr achosion hyn mae celloedd eich babi sy’n arnofio yn yr hylif amniotig yn cael eu tyfu yn y labordy. Bydd y canlyniad hwn ar gael ymhen 10 i 14 diwrnod calendr. Nid yw hyn yn golygu ei bod yn fwy tebygol y bydd problem gyda’ch babi.
Os ydych wedi cael y prawf CVS mae’r canlyniad ar gael fel arfer o fewn 10 i 14 diwrnod calendr.
Bydd y person sy’n cymryd y sampl wedi gofyn i chi sut yr hoffech chi dderbyn eich canlyniadau.
Mewn tua 4% neu 5% (pedwar neu bump mewn 100) prawf QF-PCR efallai y bydd angen samplau gwaed gennych chi a thad y babi i’n helpu i gael canlyniad cliriach. Unwaith eto, nid yw hyn yn golygu ei bod yn fwy tebygol y bydd problem gyda’ch babi.
Os yw’r prawf wedi dangos bod gan eich babi syndrom Down, syndrom Edwards neu syndrom Patau, bydd y labordy yn cynnal prawf arall o’r enw prawf caryoteip i weld a allai fod gan unrhyw fabanod eraill y gallech eu cael yn y dyfodol y cyflwr hwn.