Mae NIPT yn brawf sgrinio pellach sy’n fwy cywir na’r prawf cyfunol neu bedwarplyg. Ni fydd yn rhoi canlyniad pendant. Mae’n brawf gwaed sy’n cael ei gymryd yn y ffordd arferol – bydd eich DNA (deunydd genetig) yn eich gwaed a bydd rhywfaint o DNA eich babi ynddo sy’n cael ei ryddhau o’r brych. Bydd y gwaed yn cael ei anfon i’r labordy ac yn cael ei sgrinio ar gyfer syndrom Down (T21), syndrom Edwards (T18) a syndrom Patau (T13). Os oes mwy o DNA na’r disgwyl ar gyfer cromosomau 21, 18 neu 13 yn eich gwaed, gallai olygu bod gan eich babi syndrom Down, syndrom Edwards neu syndrom Patau. Bydd y canlyniad yn dweud wrthych a oes siawns isel neu uchel bod gan eich babi un o’r cyflyrau. Ni fydd y prawf hwn yn rhoi canlyniad ar gyfer unrhyw gyflyrau eraill, na rhyw eich babi. Os byddwch yn dewis cymryd y prawf hwn mae’n cymryd tua phythefnos i gael canlyniad.
Y rheswm pam nad yw’r prawf hwn yn 100% gywir yw oherwydd ei fod yn profi’r DNA o’r brych ac, mewn achosion prin, nid yw hyn yn union yr un fath â DNA y babi. Gelwir hyn yn fosaigiaeth brych cyfyng.
Gellir cynnal y prawf hwn hyd at 20 wythnos o feichiogrwydd.
Ni fyddwch yn gallu cael yr NIPT:
Gall eich bydwraig drafod hyn gyda chi.
Gan fod NIPT yn brawf sgrinio, ni fydd yn rhoi canlyniad pendant i chi. Yn lle hynny, bydd yn rhoi:
Bydd NIPT yn rhoi canlyniad cywir i’r rhan fwyaf o fenywod sy’n dewis cael y prawf, ond gall fod canlyniadau positif anghywir a chanlyniadau negatif anghywir.
Efallai y bydd NIPT hefyd yn llai cywir mewn beichiogrwydd gefeilliaid.
Mae canlyniad positif anghywir yn golygu cael canlyniad siawns uchel pan nad oes gan y babi’r cyflwr.
Mae canlyniad negatif anghywir yn golygu cael canlyniad siawns isel pan fydd gan y babi’r cyflwr.
Bydd y rhan fwyaf o fenywod sy’n cael NIPT yn cael canlyniad siawns isel ar gyfer syndrom Down, syndrom Edwards neu syndrom Patau. Os byddwch yn cael canlyniad siawns isel, ni fyddwch yn cael cynnig prawf mewnwthiol (samplu filws corionig (CVS) neu amniosentesis). Mae’r canlyniad yn gywir ar gyfer y rhan fwyaf o fenywod.
Dylech drafod canlyniad unigol eich prawf cyfunol neu bedwarplyg gyda’ch gweithiwr iechyd proffesiynol cyn penderfynu ar brofion pellach.
Os ydych yn cael canlyniad NIPT siawns uchel ar gyfer syndrom Down, syndrom Edwards neu syndrom Patau, byddwch yn cael cynnig prawf mewnwthiol (samplu filws corionig (CVS) neu amniosentesis) neu gallwch ddewis peidio â chael rhagor o brofion.
Mae NIPT yn llai cywir wrth ddod o hyd i fabanod â syndrom Edwards neu syndrom Patau nag ydyw ar gyfer syndrom Down.
Ni fydd tua 0.3% (1 mewn 300) o’r profion yn rhoi canlyniad i chi, yn aml am nad oes digon o gelloedd y babi yn eich gwaed. Yn yr achos hwn byddwch yn cael cynnig prawf mewnwthiol i roi canlyniad i chi. Gall eich bydwraig drafod hyn gyda chi.