Neidio i'r prif gynnwy

Adran 6 - Beth sy'n digwydd os bydd siawns uwch bod gan fy mabi gyflwr cromosomaidd oherwydd rhywbeth a welwyd yn y sgan dyddio beichiogrwydd cynnar?

Tryleuder y gwegil 3.5mm a throsodd

Tryleuder y gwegil yw’r casgliad bach o hylif yng nghefn gwddf y babi sy’n cael ei mesur gan y sonograffydd os bydd yn credu ei bod yn edrych yn fawr neu os ydych wedi gofyn am brawf sgrinio ar gyfer syndrom Down (T21), syndrom Edwards (T18) a syndrom Patau (T13).

Ni fydd gan y rhan fwyaf o fabanod y mae tryleuder y gwegil yn mesur 3.5mm a throsodd unrhyw bryderon iechyd eraill. Fodd bynnag, mae’n llawer mwy tebygol y gallai fod gan y babanod hyn broblemau penodol, a bydd y gweithiwr gofal iechyd  proffesiynol wedi trafod y rhain gyda chi. Un o’r rhain yw bod y babi yn llawer mwy tebygol na’r rhan fwyaf o fabanod o fod â chyflwr cromosomaidd

Efallai eich bod wedi dewis cael prawf sgrinio ar gyfer syndrom Down, syndrom Edwards a syndrom Patau ac efallai fod y fydwraig neu’r obstetregydd wedi trafod canlyniad y prawf hwn gyda chi.

Byddwch yn cael cynnig prawf samplu filws corionig (CVS) neu amniosentesis i weld a oes gan eich babi gyflwr cromosomaidd. Mae’r ddau brawf hyn yn cynnwys risg fach o achosi camesgoriad

Mae cael CVS neu amniosentesis yn creu risg ychwanegol o gamesgoriad sy’n debygol o fod yn is na 0.5% (tua 1 mewn 200) o feichiogrwydd. Mae’r risg ychwanegol o gamesgoriad ar ôl CVS neu amniosentesis mewn beichiogrwydd gyda gefeilliaid tua 1% (1 mewn 100) o feichiogrwydd.

Canfyddiadau eraill yn y sgan dyddio beichiogrwydd cynnar – bydd y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn trafod canfyddiadau’r sgan gyda chi ac yn dweud wrthych pa brofion y byddant yn eu cynnig. Byddant yn dweud wrthych pa adrannau o’r llyfryn hwn sy’n berthnasol i chi.