Cyflwr genetig sy’n cael ei achosi gan gromosom 13 ychwanegol ym mhob cell neu mewn rhai celloedd yw syndrom Patau. Mae syndrom Ptau hefyd yn cael ei alw'n trisomedd 13, neu T13. Mae gan unigolyn â syndrom Patau 47 cromosom yn hytrach na’r 46 arferol. Nid yw’n bosibl tynnu’r cromosom ychwanegol o’r celloedd hyd yn oed os bydd diagnosis o syndrom Patau yn cael ei wneud cyn i’r babi gael ei eni.
Mae gan bob menyw siawns o gael babi â syndrom Patau. Does dim yr ydych chi a thad y babi wedi’i wneud, neu ddim wedi’i wneud, yn gwneud unrhyw wahaniaeth i’r siawns hon.
Ni fydd profion cyn geni yn gallu dweud wrthych pa heriau penodol a allai fod gan eich babi.
Bydd tua 90% (9 mewn 10) o fabanod â syndrom Patau yn marw cyn iddynt gael eu geni neu’n fuan ar ôl iddynt gael eu geni. O’r babanod hynny sy’n byw, bydd tua 12% (1 mewn 8) yn byw am fwy na blwyddyn. Gall rhai babanod sy’n cael eu geni â mathau llai difrifol o syndrom Patau, fel y rhai â newid cromosomaidd mosäig, fyw y tu hwnt i flwyddyn a gallant fyw hyd nes eu bod yn oedolion, ond mae hyn yn brin.
Bydd gan bawb â syndrom Patau anableddau dysgu difrifol gydol eu hoes.
Mae sefydliadau cymorth ar gael hefyd i deuluoedd sydd â phlentyn â syndrom Patau. Mae’r rhain yn cynnwys Support Organisaton for Trisomy 13/18 (syndrom Patau a syndrom Edwards) (SOFT).
Bydd gan fabanod sy’n cael eu geni â syndrom Patau amrywiaeth bach o gyflyrau ond byddant yn aml yn gyflyrau difrifol
Ar ben arall y raddfa, mae ymchwil yn dangos, er enghraifft:
Bydd babanod a phlant â syndrom Patau yn cael gofal gan dîm meddygol arbenigol, oherwydd bydd gan fabanod a phlant sydd â’r cyflwr hwn anghenion cymhleth.
Mae plant sy’n cael eu geni â syndrom Patau fel arfer yn datblygu ac yn dysgu’n fwy araf na phlant eraill. Bydd ganddynt amrywiaeth o heriau cymhleth.
Bydd angen iddynt fynd i ysgol arbennig.