Bydd cyflwr cromosomaidd neu enetig yn cael ei ganfod mewn rhai achosion. Byddwch yn cael gwybodaeth a chymorth i’ch helpu i wneud penderfyniad am eich beichiogrwydd. Gallwch drafod y canlyniad gydag obstetregydd a bydwraig sy’n arbenigo mewn profion sgrinio cynenedigol. Byddwch hefyd yn gallu trafod y canlyniad gyda rhywun sy’n arbenigo mewn geneteg os bydd angen.
Mae canfod bod gan eich babi yn y groth gyflwr cromosomaidd neu enetig yn gallu achosi cymysgedd o emosiynau. Mae yna arbenigwyr sy’n gallu rhoi gwybodaeth i’ch helpu i benderfynu beth i’w wneud. Mae’r rhain yn cynnwys ymgynghorwyr meddygaeth y ffetws, genetegwyr a phediatregwyr. Mae’r rhan fwyaf o fenywod eisiau ac angen rhywfaint o gymorth. Gallai hyn fod gan bartner, teulu neu ffrindiau neu gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n gofalu amdanoch. Mae’n debygol y bydd yn ddefnyddiol i chi os gall eich partner neu ffrind ddod i apwyntiadau ysbyty gyda chi.
Mae sefydliadau cymorth ar gael i fenywod beichiog ac i deuluoedd a hoffai gael
rhagor o wybodaeth yn: Adnoddau Defnyddiol - Iechyd Cyhoeddus Cymru