Byddwch wedi cael gwybod bod rhywbeth a welwyd ar eich sgan anomaledd y ffetws sy’n golygu efallai fod gan eich babi siawns uwch o gael cyflwr cromosomaidd neu gyflwr genetig. Bydd y fydwraig neu’r meddyg ysbyty (obstetregydd) yn trafod canfyddiadau eich sgan gyda chi. Byddant yn rhoi gwybodaeth i chi am brofion pellach, gall hyn gynnwys prawf arae SNP neu brofion genetig eraill.
Efallai y byddwn yn cynnig amniosentesis i chi i weld a oes gan y babi gyflwr cromosomaidd neu gyflwr genetig. Os byddwn yn cynnig prawf amniosentesis i chi, dylech fod yn ymwybodol y gall y prawf hwn achosi camesgoriad.
Os ydych wedi cael samplu filws corionig (CVS) neu amniosentesis yn gynharach yn eich beichiogrwydd ar gyfer canlyniad siawns uwch mewn prawf sgrinio ar gyfer syndrom Down, syndrom Edwards neu syndrom Patau, efallai y bydd y labordy yn gallu cynnal profion ychwanegol ar y sampl i c