Mae prawf arae polymorffedd niwcleotid unigol (SNP) yn edrych ar yr holl gromosomau yn y celloedd yn y prawf samplu filws corionig (CVS) neu’r sampl o hylif amniotig.
Cynigir prawf arae SNP pan welir rhai newidiadau strwythurol ar sgan uwchsain.
Mae prawf arae SNP wedi'i dargedu yn edrych ar gromosomau penodol yn unig ac fe'i cynigir i rieni sy'n gludwyr cromosomau wedi’u had-drefnu. Mae adrefniad cromosomaidd yn newid yn strwythur cromosom, sy’n arwain at newid yn nhrefn neu gynnwys y deunydd genetig.
Bydd y fydwraig, y cwnselydd genetig neu'r meddyg yn yr ysbyty (obstetrydd) yn trafod gyda chi pa brawf fydd yn cael ei gynnig i chi.
Bydd y prawf arae SNP:
Mae’r prawf hwn yn chwilio am newidiadau cromosomaidd yn fwy manwl na’r prawf QF-PCR.
Mae prawf arae SNP wedi'i dargedu:
Mae’r canlyniadau hyn fel arfer yn barod o fewn tua 14 diwrnod calendr.
Weithiau bydd yn cymryd hyd at 21 diwrnod calendr i gwblhau'r profion hyn. (nid yw hyn yn golygu bod mwy o siawns y bydd anomaledd strwythurol neu gromosomaidd gyda’ch babi).
Weithiau, mewn tua 0.4% (1 mewn 250) o brofion, ni fyddwch yn cael canlyniad. Os bydd hyn yn digwydd, efallai y byddwch yn cael cynnig prawf amniosentesis arall.
Mewn rhai achosion, gall prawf arae SNP roi canlyniad nad yw'n glir.
Bydd eich obstetregydd yn trafod hyn gyda chi os bydd hyn yn digwydd.
Bydd prawf arae SNP a gynhelir pan welir rhai newidiadau strwythurol ar sgan uwchsain yn dangos rhyw eich babi.
Os nad ydych chi eisiau gwybod rhyw eich babi, dywedwch wrth eich bydwraig neu obstetrydd.
Ni fydd yr SNP wedi'i dargedu a gynhelir ar gyfer rhieni sy'n gludwyr cromosomau wedi’u had-drefnu yn dangos rhyw eich babi.