Mae'r prawf hwn yn y labordy yn cymryd mwy o amser na'r prawf QF-PCR. Ni chaiff ei wneud ar gyfer canlyniadau sgrinio tebygolrwydd uwch o'r prawf cyfun neu bedwarplyg neu NIPT, oni bai bod y canlyniad QF-PCR yn dangos bod gan eich baban syndrom Down, syndrom Edwards neu syndrom Patau. Bydd y labordy yn cynnal dadansoddiad wedi'i dargedu ar y cromosom y canfuwyd bod ganddo drisomedd. Diben hyn yw gweld a allai unrhyw fabanod eraill y gallech chi eu cael yn y dyfodol fod â’r cyflwr.
Er mwyn cynnal y prawf hwn, mae celloedd eich babi sy’n arnofio yn yr hylif amniotig neu o’r samplu filws corionig (CVS) yn cael eu tyfu yn y labordy. Bydd staff y labordy yn archwilio’r celloedd o dan ficrosgop i chwilio am newidiadau yn nifer ac ymddangosiad cromosomau lle canfu’r trisomedd.
Ni fydd y dadansoddiad cromosomau wedi'i dargedu yn diystyru newidiadau i gromosomau eraill eich babi. Fodd bynnag, os bydd y dadansoddwr yn canfod newid ar gromosom arall, bydd yn dadansoddi'r holl gromosomau. Gelwir hyn yn brawf caryoteip llawn, ac mae'n bosibl y gellir canfod ac adrodd bod newid mewn cromosom arall.
Bydd y dadansoddiad cromosomau wedi'i dargedu yn dangos rhyw eich babi. Os nad ydych chi eisiau gwybod rhyw eich babi, dywedwch wrth eich bydwraig neu obstetrydd.
Ni fydd dadanoddiad yn canfod:
Fel arfer, bydd canlyniadau'r dadansoddiad cromosomau wedi'i dargedu yn barod ymhen tua thair wythnos.