Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r wybodaeth hon i chi os ydych wedi cael cynnig mwy o brofion ar gyfer cyflyrau cromosomaidd neu enetig posibl

Rydych wedi cael y wybodaeth hon am fod eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn amau bod siawns uwch y gallai fod gan eich babi gyflwr cromosomaidd neu enetig.

 

Ni fydd pob adran yn berthnasol i chi. Bydd eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol wedi trafod yr adrannau sy’n berthnasol i chi.

 

Nid yw adran 12 o'r llyfr hwn bellach yn brawf dilynol sy'n cael ei gynnal ar eich sampl samplu filws corionig (CVS) neu sampl amniosentesis os cawsoch ddiagnosis o syndrom Down, syndrom Edwards neu syndrom Patau. Bydd prawf pellach, Dadansoddiad Cromosomau wedi'i Dargedu (TCA), yn cael ei berfformio ar y sampl a gymerwyd gennych.  Mae'r prawf hwn yn helpu i nodi'r risg y bydd y cyflwr yn digwydd mewn beichiogrwydd yn y dyfodol.
Bydd eich darparwr gofal iechyd yn trafod Dadansoddiad Cromosomau wedi'i Dargedu (TCA) gyda chi.