Cyhoeddi Ionawr 2022
Cynnwys
― Bod yn gludydd
― Eich babi
― Y siawns o etifeddu cyflwr difrifol
― Camau nesaf
― Beichiogrwydd yn y dyfodol
― Aelodau eraill o'r teulu
― Sut y mae canlyniad eich prawf yn cael ei ysgrifennu
― Rhagor o wybodaeth
Nid yw bod yn gludydd yn eich gwneud yn sâl. Ni fyddwch yn datblygu cyflwr thalasaemia sydd angen triniaeth ond mae'n bwysig gwybod y gallwch drosglwyddo thalasaemia alffa sero i'ch babi.
Os yw tad biolegol eich babi yn gludydd hefyd, gyda'ch gilydd gallech gael babi â chyflwr etifeddol difrifol. Mae'r siawns yr un peth ym mhob beichiogrwydd.
Mae thalasaemia alffa sero yn fwy cyffredin ymhlith pobl y mae eu teulu'n tarddu o Dde-ddwyrain Asia neu o Dde Ardal Môr y Canoldir (Sardinia, Gwlad Groeg, Twrci a Cyprus). Os yw teulu tad biolegol eich babi yn tarddu o un o'r ardaloedd hyn, mae'n bwysig gwybod ei statws cludydd a bydd yn cael ei wahodd i gael ei sgrinio. Os bydd y prawf yn dangos bod y tad biolegol hefyd yn gludydd thalasaemia alffa sero, byddwch yn cael cynnig cwnsela arbenigol ac, os oes angen, profion mewnwthiol.
Fel cludydd thalasaemia alffa sero mae eich celloedd gwaed coch yn llai nag arfer ac mae eich lefel haemoglobin yn is na'r arfer. Mae hyn yn wahanol i anemia diffyg haearn. Cyn cymryd atchwanegiadau haearn dylech bob amser ofyn i'ch gweithiwr gofal iechyd proffesiynol wirio eich lefelau haearn.
Haemoglobin yw'r sylwedd mewn celloedd gwaed coch sy'n cludo ocsigen o amgylch eich corff.
Mae bod yn gludydd yn golygu eich bod wedi etifeddu'r genyn haemoglobin A arferol gan un rhiant biolegol a thalasaemia alffa sero gan eich rhiant biolegol arall. Gan eich bod wedi etifeddu’r math arferol A o haemoglobin oddi wrth un o’ch rhieni, rydych yn iach.
Dywedwch wrth eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol os:
Os ydych chi a thad biolegol eich babi yn gludwyr, gyda'ch gilydd gallech gael babi â chyflwr etifeddol difrifol o'r enw thalasaemia difrifol alffa (a elwir hefyd yn Syndrom Barts Hydrops Fetalis).
Mae thalasaemia difrifol alffa yn achosi anemia difrifol yn y babi, gan arwain at dwf cyfyngedig, a chamesgoriad neu farw-enedigaeth.
Yn achlysurol iawn, mae babanod â thalasaemia difrifol alffa yn goroesi i enedigaeth os byddant yn cael trallwysiadau gwaed yn y groth. Bydd angen trallwysiadau gwaed arnynt drwy gydol eu hoes ac mae risg uchel o anableddau sylweddol. Os yw eich babi'n wynebu risg, gallwch drafod y posibilrwydd o'r driniaeth hon gyda'ch gweithiwr gofal iechyd proffesiynol.
Os yw eich babi wedi etifeddu thalasaemia difrifol alffa, mae goblygiadau iechyd i chi hefyd yn ystod beichiogrwydd ac wrth esgor. Byddwch yn cael eich monitro'n agos yn ystod beichiogrwydd a gall eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol roi rhagor o wybodaeth i chi am hyn.
Mae un rhiant biolegol yn gludydd ond nid yw'r rhiant arall yn gludydd
Os oes gan dad biolegol eich babi fath arferol A o haemoglobin, mae siawns 2 mewn 4 (50%) y bydd eich babi yn gludydd (fel chi) a siawns 2 mewn 4 (50%) y bydd ganddo fath arferol o haemoglobin A.
Gweler y diagram isod. Mae’r siawns yr un fath ym mhob beichiogrwydd ar gyfer y cwpl hwn.
Mae'r ddau riant biolegol yn gludwyr
Os yw tad biolegol eich babi yn gludydd hefyd, mae siawns 1 mewn 4 (25%) y bydd eich babi yn etifeddu cyflwr haemoglobin difrifol.
Mae hefyd siawns 2 mewn 4 (50%) y bydd eich babi yn gludydd (fel chi) a siawns 1 mewn 4 (25%) y bydd gan eich babi fath arferol o haemoglobin A.
Gweler y diagram isod. Mae’r siawns yr un fath ym mhob beichiogrwydd ar gyfer y cwpl hwn.
Os bydd sgrinio yn dangos y gallai eich babi etifeddu cyflwr haemoglobin difrifol, byddwch yn cael cynnig cwnsela arbenigol ac yn cael cynnig profion mewnwthiol
Os yw'r canlyniad yn dangos bod gan eich babi thalasaemia difrifol alffa byddwch yn cael cynnig apwyntiad gydag arbenigwr i drafod y dewisiadau ar gyfer eich beichiogrwydd.
Gallwch siarad â'ch gweithiwr gofal iechyd proffesiynol ar unrhyw adeg os oes gennych gwestiynau.
Rydym yn argymell eich bod yn dweud wrth eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol am eich statws cludydd mor gynnar â phosibl mewn unrhyw feichiogrwydd yn y dyfodol.
Mae'n bwysig profi tad biolegol eich babi a chael eich atgyfeirio i gwnselydd arbenigol.
Gan eich bod yn gludydd thalasaemia alffa sero, gallai aelodau eraill o’ch teulu biolegol fod yn gludwyr hefyd.
Rydym yn argymell eich bod yn siarad â'ch rhieni, brodyr, chwiorydd, ewythrod, modrybedd, cefndryd a chyfnitherod. Dylech eu hannog nhw i gael prawf cyn dechrau teulu a chyn cael rhagor o blant. Gall dangos y wybodaeth hon iddynt fod o gymorth.
Gellir trefnu gwybodaeth, cyngor a phrofion am ddim drwy gysylltu â'ch meddyg teulu neu'ch canolfan Crymangelloedd a Thalasaemia arbenigol.
Mae canlyniad eich prawf wedi’i ysgrifennu fel cludydd thalasaemia alffa sero.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth gan y cyrff yma:
https://111.wales.nhs.uk/encyclopaedia/t/article/thalassaemia/