Neidio i'r prif gynnwy

Canlyniad eich prawf gwaed: rydych chi'n gludydd thalasaemia beta

Mae'r wybodaeth hon ar eich cyfer chi os ydych chi'n feichiog ac wedi cael prawf gwaed sy'n dangos eich bod chi'n gludydd thalasaemia beta (a gyfeirir ato’n aml fel 'meddu ar nodwedd' neu ‘having a trait’). Mae'r daflen hon yn rhoi gwybodaeth i chi am fod yn gludydd, a’r hyn y mae’n yn ei olygu i chi a'ch teulu.


Cyhoeddi Tachwedd 2025, Fersiwn 3.
 

Cynnwys

― Sut mae canlyniad eich prawf wedi'i ysgrifennu?
Beth mae canlyniad eich prawf gwaed yn ei olygu?
― Cyflyrau haemoglobin etifeddo
― Sut fyddai fy mabi yn etifeddu anhwylder y crymangelloedd? (Anhwylder thalasaemia beta?  
― A ddylid cynnig profion i dad biolegol fy mabi?
― Beth fydd yn digwydd pan fydd fy mabi yn cael ei eni?
― A ddylwn i ddweud wrth fy nheulu am y canlyniad?
― Y camau nesaf a dewisiadau
― Rhagor o wybodaeth

 

 

 

Sut mae canlyniad eich prawf wedi'i ysgrifennu?

Mae eich canlyniad wedi'i ysgrifennu fel 'canlyniadau sy'n gyson â thalasaemia beta'.

 

Beth mae canlyniad eich prawf gwaed yn ei olygu?

Haemoglobin yw'r sylwedd mewn celloedd gwaed coch sy'n cludo ocsigen o amgylch eich corff. Mae bod yn gludydd thalasaemia beta yn golygu eich bod wedi etifeddu un genyn haemoglobin arferol o'r enw haemoglobin A gan un rhiant biolegol ac un genyn thalasaemia beta gan eich rhiant biolegol arall. Rydych chi’n iach gan eich bod wedi etifeddu'r genyn haemoglobin A arferol gan un rhiant. Nid yw bod yn gludydd yn eich gwneud chi'n sâl.

Mae bod yn gludydd thalasaemia beta, yn golygu bod eich celloedd gwaed coch yn llai nag arfer ac mae eich lefel haemoglobin yn is nag arfer. Mae hyn yn wahanol i anaemia diffyg haearn. Gofynnwch i'ch gweithiwr gofal iechyd proffesiynol wirio'ch lefelau haearn cyn i chi ddechrau cymryd atchwanegiadau haearn. Mae bod yn gludydd thalasaemia beta yn golygu y gallech drosglwyddo'r genyn thalasaemia beta i'ch babi. Os yw tad biolegol eich babi hefyd yn gludydd, mae hynny’n golygu y gallech chi gyda'ch gilydd gael babi â chyflwr haemoglobin etifeddol.

Rhowch wybod i'ch gweithiwr gofal iechyd proffesiynol os ydych chi: 

  • wedi beichiogi yn dilyn triniaeth ffrwythlondeb gan ddefnyddio sberm rhoddwr neu wy rhoddwr; 
  • wedi cael trawsblaniad mêr esgyrn neu bôn-gelloedd; neu 
  • os ydych yn feichiog fel mam fenthyg.

 

Cyflyrau haemoglobin etifeddo

Anhwylderau gwaed yw cyflyrau haemoglobin sy’n cael eu hetifeddu gan y ddau riant biolegol. Mae lawer o wahanol gyflyrau haemoglobin. Bydd y math o gyflwr y gallai eich babi ei etifeddu yn dibynnu ar ba fath o enynnau haemoglobin sydd gan y ddau riant biolegol. Mae rhai cyflyrau'n fwy difrifol nag eraill fel clefyd y crymangelloedd a thalasaemia sy'n ddibynnol ar drallwysiadau (thalasaemia difrifol).

Gall eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol drafod hyn gyda chi, fel eich bod chi'n deall pa gyflwr y gallai eich babi ei etifeddu a sut y gallai hynny effeithio ar iechyd eich babi.

 

Sut fyddai fy mabi yn etifeddu anhwylder y crymangelloedd? (Anhwylder thalasaemia beta?

Mae un rhiant biolegol yn gludydd ac nid yw'r rhiant biolegol arall

Os oes gan dad biolegol eich babi ddau enyn haemoglobin arferol (AA), mae siawns o 2 mewn 4 (50%) y bydd eich babi yn gludydd thalasaemia beta (fel chi) a siawns o 2 mewn 4 (50%) y bydd ganddo ddau enyn haemoglobin arferol (AA). Gweler y diagram isod. Mae'r siawns hon yr un fath ym mhob beichiogrwydd i'r cwpl hwn.

Beth os yw'r ddau riant biolegol yn gludyddion?

Os yw tad biolegol eich babi yn gludydd, mae siawns o 1 mewn 4 (25%) y bydd eich babi yn etifeddu cyflwr haemoglobin. Bydd difrifoldeb y cyflwr yn dibynnu ar ba enynnau haemoglobin sy'n cael eu hetifeddu.

Mae hefyd siawns o 2 mewn 4 (50%) y bydd eich babi yn gludydd (fel chi), a siawns o 1 mewn 4 (25%) y bydd gan eich babi enynnau haemoglobin arferol (AA). Gweler y diagram isod. Mae'r siawns hon yr un fath ym mhob beichiogrwydd i'r cwpl hwn.

A ddylid cynnig profion i dad biolegol fy mabi?

Os oes gan dad biolegol eich babi enyn haemoglobin anarferol, mae'n bwysig nodi'r math o enyn a'r siawns y bydd eich babi yn etifeddu cyflwr haemoglobin. Am y rheswm hwn, byddwn hefyd yn gwahodd tad biolegol y babi i gael ei sgrinio. Dim ond os bydd yn cael prawf gwaed i gadarnhau'r math o haemoglobin sydd ganddo y bydd y tad yn gwybod a yw'n cario genyn ar gyfer haemoglobin anarferol. 

Gwybodaeth i dadau sy'n cael eu gwahodd i gael prawf sgrinio ar gyfer anhwylder y crymangelloedd a thalasaemia difrifol - Iechyd Cyhoeddus Cymru

Os yw'r prawf yn dangos bod tad biolegol eich babi yn gludydd genyn haemoglobin anarferol, byddwch yn cael cynnig cwnsela arbenigol a diagnosis cyn geni.

 

Beth fydd yn digwydd pan fydd fy mabi yn cael ei eni?

Cynigir prawf sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig i bob babi tua phedwar diwrnod ar ôl yr enedigaeth. Bydd y prawf hwn yn sgrinio am anhwylder y crymangelloedd.

 

Y camau a'r dewisiadau nesaf

Gallwch chi hefyd wneud y canlynol: 

  • rhoi gwybod i'ch meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol eich bod yn gludydd thalasaemia beta; a 
  • chysylltu â Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan (AWMGS) i gael gwybodaeth a chyngor am ddim i'ch helpu i ddeall goblygiadau bod yn gludydd thalasaemia beta.
  • Gallwch chi roi gward (pan nad ydych yn feichiog) cyn belled â nad ydych yn anemig (nid oes gennych haemoglobin sy’n is na’r arfer). Rhoi Gwaed - Gwasanaeth Gwaed Cenedlaethol 

 

Rhagor o wybodaeth

Gallwch gael rhagor o wybodaeth o'r canlynol. 

NHS 111 Wales - Health A-Z : Thalassaemia (Saesneg yn unig) 

111.wales.nhs.uk/encyclopaedia/t/article/thalassaemia/ (Saesneg yn unig)