Cyhoeddi Hydref 2025. Fersiwn 4.
Cynnwys
― Sut mae canlyniad eich prawf wedi'i ysgrifennu?
― Beth mae canlyniad eich prawf gwaed yn ei olygu?
― Beth yw thalasaemia alffa?
― Beth arall sy'n bwysig ei wybod os ydych yn gludydd thalasaemia alffa?
― Sut fyddai fy maban yn etifeddu thalasaemia alffa?
― A ddylid cynnig profion i dad biolegol fy maban?
― Y camau nesaf a dewisiadau
― Rhagor o wybodaeth
Gan na all eich prawf sgrinio gadarnhau a ydych chi'n gludydd thalasaemia alffa, rydym wedi ysgrifennu'r wybodaeth yn y daflen hon fel pe baech chi'n gludydd thalasaemia alffa ac i'ch helpu i ddeall a fydd angen cymryd camau pellach yn ystod eich beichiogrwydd.
Pwyntiau allweddol
Mae canlyniad eich prawf wedi'i ysgrifennu fel: Canlyniadau'n gyson â chludydd thalasaemia alffa posibl a/neu ddiffyg haearn.
Haemoglobin yw'r sylwedd mewn celloedd gwaed coch sy'n cludo ocsigen o amgylch eich corff. Mae eich prawf gwaed diweddar wedi dangos bod eich celloedd gwaed coch yn llai nag arfer. Fel arfer, diffyg haearn yn eich gwaed sy'n achosi hyn, sef yr achos mwyaf cyffredin o anemia. Ond gall hefyd gael ei achosi gan thalasaemia. Bydd eich bydwraig yn cynnig profion i weld a oes gennych ddiffyg haearn.Haemoglobin yw'r sylwedd mewn celloedd gwaed coch sy'n cludo ocsigen o amgylch eich corff.
Mae eich prawf gwaed diweddar wedi dangos bod eich celloedd gwaed coch yn llai nag arfer. Fel arfer, diffyg haearn yn eich gwaed sy'n achosi hyn, sef yr achos mwyaf cyffredin o anemia. Ond gall hefyd gael ei achosi gan thalasaemia. Bydd eich bydwraig yn cynnig profion i weld a oes gennych ddiffyg haearn.
Anhwylderau gwaed yw cyflyrau haemoglobin sy’n cael eu hetifeddu gan y ddau riant biolegol. Mae llawer o wahanol gyflyrau haemoglobin. Mae thalasaemia alffa yn gyflwr etifeddol. Bydd y math o gyflwr y gallai eich baban ei etifeddu yn dibynnu ar ba fath o enynnau haemoglobin sydd gan y ddau riant biolegol. Fel arfer nid oes gan gludyddion broblemau iechyd ac nid oes angen triniaeth arnynt. Mae rhai cyflyrau'n fwy difrifol nag eraill. Mae'n bwysig gwybod os yw tad biolegol eich baban hefyd yn
gludydd, oherwydd gallai hyn gynyddu'r siawns y bydd eich baban yn etifeddu cyflwr mwy difrifol.
Gall eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol drafod hyn gyda chi, fel eich bod chi'n deall pa gyflwr y gallai eich baban ei etifeddu a sut y gallai hynny effeithio ar iechyd eich baban
Gofynnwyd cwestiynau penodol i chi am darddiad eich teulu cyn y prawf sgrinio hwn, ac fe gafodd hyn ei ystyried wrth ddehongli canlyniad eich gwaed.
Dim ond os bydd adroddiad eich prawf sgrinio yn argymell bod tad biolegol y baban yn cael ei brofi y bydd angen cymryd camau pellach.
Dim ond os:
Os yw'r prawf yn dangos bod tad biolegol eich baban yn gludydd genyn haemoglobin anarferol, byddwch yn cael cynnig cwnsela arbenigol a diagnosis cyn geni.
Dywedwch wrth eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol os ydych chi:
Gallwch gael rhagor o wybodaeth gan: