Cyhoeddi mis Mai 2022.
Cynnwys
― Cyflwyniad
― Ystyr canlyniad eich prawf gwaed
― Beth yw beta thalasaemia?
― Y pethau dylech chi fod yn eu gwybod os ydych yn cario beta thalasaemia
― Os ydw i’n gludydd, beth allai hyn ei olygu i’r plentyn yn fy nghroth?
― Gwneud prawf ar dad y babi
― Os daw’n amlwg bod risg uchel yn eich beichiogrwydd o anhwylder difrifol ar yr haemoglobin
Mae’r daflen yma i fenywod sydd wedi cael prawf am grymangelloedd a thalasaemia mewn beichiogrwydd ac sydd wedi cael eu hysbysu y gallent fod yn gludydd beta thalasaemia (sydd hefyd yn cael ei alw’n dueddiad beta thalasaemia posibl).
Gan na all eich prawf sgrinio gadarnhau a ydych yn gludydd beta thalasaemia, rydym wedi ysgrifennu'r wybodaeth yn y daflen i ddarparu gwybodaeth i chi fel pe baech yn gludydd beta thalasaemia ac i'ch helpu i ddeall a oes angen cymryd camau pellach yn ystod eich beichiogrwydd
Negeseuon allweddol
Byddwn yn argymell bod tad biolegol eich babi’n cael prawf yn seiliedig ar ganlyniadau'r labordy.
Mae canlyniad eich prawf wedi’i gyfleu fel: cludydd posibl o beta thalasaemia. Bydd yr adroddiad yn dweud bod mwy o archwiliadau’n cael eu gwneud er mwyn rhoi diagnosis pendant i chi. Bydd yn argymell hefyd y dylai tad biolegol eich babi gael prawf.
Mae eich prawf gwaed diweddar wedi dangos:
Diffyg haearn yn y gwaed sydd fel arfer yn gwneud y celloedd coch yn llai, sef yr achos pennaf o anaemia. Mae’r prawf gwaed sy’n cael ei wneud yn ystod eich beichiogrwydd yn gwirio lefel y fferitin yn eich gwaed, ac mae’n ein helpu i benderfynu a oes diffyg haearn yn eich gwaed.
Yn achos rhywun iach sydd â digon o haearn, yr esboniad mwyaf tebygol i ganlyniad y prawf gwaed yw bod y person yn gludydd beta thalasaemia.
Mae beta thalasaemia yn un o’r nifer o amrywiadau posibl yn eich gwaed, o'r enw amrywolion genynnau haemoglobin, y gellir eu trosglwyddo o'r rhiant i'r plentyn. Yn achos y mwyafrif o’r nodweddion rydych chi’n eu hetifeddu, rydych yn etifeddu un genyn o’ch mam fiolegol ac un genyn o’ch tad biolegol. Er enghraifft, mae’ch genynnau’n rheoli lliw eich croen, eich gwallt a’ch llygaid. Mae’ch genynnau hefyd yn rheoli’r math o haemoglobin rydych yn ei etifeddu.
Mae cludydd beta thalasaemia’n etifeddu’r genyn beta globin arferol o un o’i rieni, a genyn beta globin wedi’i newid o’r ail riant. Nid yw’r genyn wedi’i newid yn gwneud llawer iawn o haemoglobin, os yw’n gwneud unrhyw haemoglobin o gwbl.
Mae llawer o bobl yn cario beta thalasaemia. Mae’n fwy cyffredin ymhlith pobl y mae eu teulu'n hanu o:
Mae’n gallu digwydd hefyd ym mhob grŵp ethnig.
Ar hyn o bryd, rydym yn ansicr a ydych yn cario beta thalasaemia, ond rydym wedi ysgrifennu’r wybodaeth sy’n dilyn fel petaech yn cario beta thalasaemia.
Rhoi Gwaed // Gwasanaeth Gwaed Cymru (welsh-blood.org.uk)
Gan fod posibilrwydd eich bod yn gludydd beta thalasaemia, mae siawns y gallech drosglwyddo’r genyn wedi’i newid i unrhyw blant y byddwch yn eu cael.
Os byddwch yn cael plentyn gyda phartner sydd ddim yn cario beta thalasaemia, risg isel fyddai gan eich plentyn o etifeddu anhwylder beta thalasaemia. Mae siawns 2 mewn 4 (50%) y bydd eich babi yn gludydd thalasaemia beta (fel chi) a siawns 2 mewn 4 (50%) y bydd ganddo ddau enyn haemoglobin arferol (AA). Mae’r diagram sy’n dilyn yn dangos hynny.
Mae’r diagram yn dangos sut mae hyn yn gweithio. Mae un o’r rhieni’n gludydd, ond nid yw’r llall yn gludydd. Mae’r ffigurau mewn dau liw i ddangos fod gan y rhiant sy’n gludydd un genyn beta globin arferol (lliw gwyrdd) ac un genyn beta globin wedi’i newid (lliw glas).
Os byddwch yn cael plentyn gyda phartner sydd yn cario beta thalasaemia, mae 1 siawns o bob 4 (25%) y bydd eich plentyn etifeddu anhwylder beta thalasaemia. Mae’r diagram sy’n dilyn yn dangos hynny. Mae hefyd siawns 2 mewn 4 (50%) y bydd eich babi yn gludydd (fel chi) a siawns 1 mewn 4 (25%) y bydd gan eich babi enynnau haemoglobin arferol (AA).
Mae’r diagram yn dangos sut mae hyn yn gweithio. Mae’r ddau riant yn gludyddion. Mae’r ffigurau mewn dau liw i ddangos fod gan y ddau riant un genyn beta globin arferol (lliw gwyrdd) ac un genyn beta globin wedi’i newid (lliw glas).
Os byddwch yn cael plentyn gyda phartner sydd ddim yn cario beta thalasaemia ond mae’n cario genyn ar gyfer unrhyw fath arall o haemoglobin wedi’i newid, er enghraifft haemoglobin E, mae 1 siawns o bob 4 (25%) y gallai eich plentyn etifeddu math arall o anhwylder ar yr haemoglobin. Mae rhai o’r anhwylderau yma’n rhai ysgafn ond mae rhai’n fwy difrifol. Bydd eich bydwraig neu’ch cynghorydd ar eneteg yn trafod hyn gyda chi.
Rydym yn awyddus i dad biolegol eich babi gael prawf, ac i wneud y prawf cyn pen tri diwrnod gwaith neu cyn gynted â phosibl. Pwrpas y prawf yw dod i wybod a yw’r tad yn cario beta thalasaemia neu’n cario math arall o amrywiolyn anarferol yn yr haemoglobin.
Os nad yw tad biolegol eich babi’n gludydd beta thalasaemia ac os nad yw’n cario unrhyw fath arall o amrywiolyn anarferol yn ei haemoglobin, ni ddylai beta thalasaemia nac unrhyw anhwylder arall ar yr haemoglobin fod ar y babi yn eich croth nac ar unrhyw fabanod rydych chi’ch dau eisoes wedi’u cael neu rai byddwch yn eu cael yn y dyfodol. Yn yr achos yma, nid oes angen cymryd unrhyw gamau pellach.
Os yw tad eich babi’n cario beta thalasaemia neu os yw’n cario unrhyw fath arall o amrywiolyn anarferol yn ei haemoglobin, mae posibilrwydd y gallai hwn gael ei drosglwyddo i’r babi oddi wrth y ddau riant. Fe allai goblygiadau hynny fod yn ddifrifol i’ch babi.
Os ydych chi a thad biolegol eich babi yn cario beta thalasaemia neu rai mathau penodol eraill o amrywolion yng ngenynnau’r haemoglobin, byddwch yn cael eich gwahodd cyn gynted â phosibl yn y beichiogrwydd i drafod y sefyllfa gyda bydwraig arbenigol neu gynghorydd ar eneteg. Pwrpas gwneud hyn yw rhoi gwybodaeth i chi am y ffordd y gallai hyn effeithio ar y babi yn eich croth.
Mae rhai rhieni’n dewis cael prawf ymwthiol (samplu filysau corionig (CVS) rhwng wythnos 11 ac wythnos 14 o’r beichiogrwydd, neu amniosentesis ar ôl wythnos 15) i gael gwybod a fydd beta thalasaemia difrifol ar y babi.
Byddwch yn cael cyfle i drafod y prawf ymwthiol gyda’r fydwraig arbenigol neu’r cynghorydd ar eneteg.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am thalasaemia o’r mannau canlynol.
Y fydwraig yn yr ysbyty sy’n arbenigo ar sgrinio cyn geni neu’r meddyg yn yr ysbyty (yr obstetregydd).