Mae’n egluro:
Cyhoeddedig Awst 2019, Rhifyn 2,
― Pam mae angen prawf clyw ar fy mabi?
― Pryd a ble y bydd y prawf yn cael ei gynnal
― Sut bydd y prawf yn cael ei gynnal
― Beth sy’n digwydd ar ôl y prawf?
― Profion pellach sy’n cael eu defnyddio
― Darganfod mwy
― Defnyddio eich gwybodaeth
Mae’r mwyafrif o fabanod yn cael prawf sgrinio clyw yn fuan ar ôl eu geni. Mae rhai babanod yn cael eu hatgyfeirio i gael prawf clyw heb gael prawf sgrinio’r clyw yn gyntaf. Pan fyddwn yn atgyfeirio eich babi, byddwn yn egluro’r rheswm dros wneud hynny.
Cynhelir y prawf mewn clinig arbennig yn yr ysbyty. Byddwn yn anfon llythyr apwyntiad ynglŷn â’r prawf o fewn pedair wythnos i’ch babi gael ei atgyfeirio.
Awdiolegydd (arbenigwr clyw) fydd yn cynnal y prawf. Cynhelir y prawf pan fydd eich babi’n llonydd neu’n cysgu. Fel arfer, bydd yr apwyntiad yn para tua dwy awr ac mae’n cynnwys amser i dawelu eich babi er mwyn iddo fynd i gysgu. Gallwch aros gyda’ch babi tra bydd y prawf yn cael ei gynnal.
Mae tri phad bach gludiog yn cael eu rhoi ar ben eich babi. Bydd clustffonau’n cael eu rhoi yng nghlustiau eich babi; bydd y rhain yn gwneud synau gwahanol.
Mae cyfrifiadur yn dangos i’r awdiolegydd sut mae clustiau eich babi yn ymateb i’r synau.
Os na fydd un o glustiau allanol eich babi wedi’i ffurfio’n gywir, ni fydd pob un o’r profion a ddisgrifir yn cael eu defnyddio. Efallai y bydd teclyn clust bach â blaen meddal yn cael ei roi yn rhan allanol clust eich babi. Bydd hwn yn dangos a oes hylif yng nghlust eich babi.
Os bydd dwy glust eich babi yn dangos eu bod yn ymateb yn glir, mae’n annhebyg bod gan eich babi nam ar y clyw. Bydd yr awdiolegydd yn rhoi gwybodaeth ichi am sut mae babanod yn ymateb i sain wrth iddynt dyfu. Bydd yn dweud wrthych beth i’w wneud os oes gennych unrhyw bryderon am glyw eich babi.
Efallai na fydd y prawf yn dangos ymateb clir gan un o glustiau eich babi, neu gan y ddwy glust. Bydd yr awdiolegydd yn egluro beth mae hynny’n ei olygu. Mae gwahanol fathau a lefelau o golli clyw. Efallai y bydd angen mwy o brofion cyn y byddwch yn gwybod am glyw eich babi. Bydd yr awdiolegydd yn cynllunio gyda chi i ganfod yr adeg orau i’ch babi gael rhagor o brofion.
Efallai y bydd cynhyrchydd sain bach yn cael ei roi y tu ôl i glust eich babi. Mae’r prawf hwn yn dangos i’r awdiolegydd sut mae clustiau mewnol eich babi yn ymateb i’r sain.
Efallai y bydd teclyn clust bach â blaen meddal yn cael ei roi yn rhan allanol clust eich babi. Bydd hwn yn gwneud sŵn clicio. Bydd cyfrifiadur yn dangos i’r awdiolegydd sut mae clustiau eich babi yn ymateb i’r sŵn.
Ar ôl y prawf, bydd yr awdiolegydd yn ateb unrhyw gwestiynau fydd gennych. Os bydd gan eich babi nam ar y clyw, byddwch yn cael cynnig cymorth a rhoddir mwy o wybodaeth ichi.
Os hoffech ragor o wybodaeth neu os hoffech siarad â rhywun am glyw eich babi, gallwch gysylltu â:
Gogledd Cymru: 01978 727005
Canolbarth a Gorllewin Cymru: 01792 343364
De-ddwyrain Cymru: 02921 843568
Gallwch hefyd gysylltu â’r Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar (NDCS). Mae gan y gymdeithas linell gymorth ar gyfer rhieni a theuluoedd a hoffai wybodaeth am brofion clyw ac unrhyw fath o golled clyw yn ystod plentyndod.
E-bost: ndcs@ndcs.org.uk
Gwefan: www.ndcs.org.uk
Dehonglydd Nawr: https://interpreternow.co.uk/ndcs
Llinell gymorth rhadffôn: 0808 800 8880 (v/t)
(dulliau eraill o gysylltu hefyd ar gael, gweler -
https://www.ndcs.org.uk/our-services/services-for-families/helpline/
Er mwyn i ni gysylltu â chi fel rhan o’r rhaglen, bydd angen i ni drin a thrafod gwybodaeth bersonol amdanoch chi a’ch babi. Os bydd angen mwy o wybodaeth arnoch chi am hyn, gallwch:
Rydym hefyd yn cadw manylion personol eich babi i wneud yn siŵr bod safon ein gwasanaeth mor uchel â phosibl. Mae hyn yn cynnwys edrych ar gofnodion eich babi os canfyddir bod colled clyw ar eich babi ar ôl iddo gael canlyniad normal mewn prawf sgrinio.
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar ein gwefan Sgrinio Clyw Babanod Cymru
Os oes gennych unrhyw gwestiwn neu os hoffech wneud sylwadau neu awgrymiadau am raglen Sgrinio Clyw Babanod Cymru, anfonwch e-bost drwy ein gwefan neu ffoniwch ni ar un o’r rhifau ffôn sy’n dilyn.
Gogledd Cymru: 03000 848710
De-orllewin Cymru: 01792 343364
De-ddwyrain Cymru: 02921 843568
Os oes gennych unrhyw bryderon, ysgrifennwch at:
Y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Sgrinio
4ydd Llawr, 2 Capital Quarter
Stryd Tyndall
Caerdydd, CF10 4BZ
Gallwch gysylltu â ni yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd yn cymryd yr un faint o amser i ni eich ateb, pa bynnag iaith a ddewiswch.
Mae’r wybodaeth hon ar gael mewn print mawr a Braille.