Neidio i'r prif gynnwy

Prawf sgrinio clyw eich babi

Gall y daflen hon eich helpu i benderfynu a ydych am i’ch babi gael prawf sgrinio clyw.

 

Cynnwys

― Beth yw sgrinio clyw babanod?
Pam ddylai fy mabi gael prawf sgrinio clyw?
― Pa mor gywir yw'r prawf?
― Sut Ynglŷn â'r prawf 
― Canlyniadau 
― Rhagor o brofion
― Rhagor o wybodaeth

Mae'r animeiddiad hwn yn rhoi gwybodaeth am y prawf sgrinio clyw a gynigir i chi ar gyfer eich babi ar ôl iddo gael ei eni.

Beth yw sgrinio clyw babanod?

Mae pob babi yn cael cynnig gwiriadau iechyd yn ystod wythnosau cyntaf ei fywyd. Un o’r profion hyn yw prawf sgrinio clyw. Eich dewis chi yw cymryd rhan. Mae’r pro-fion a ddefnyddir ar gyfer sgrinio clyw yn gyflym ac yn syml ac ni fyddant yn niweidio’ch babi. Mae angen mwy nag un prawf ar rai babanod.

 

Pam ddylai fy mabi gael prawf sgrinio clyw?

O bob 1,000 o fabanod sy'n cael eu geni. Bydd gan 1 neu 2 golled clyw.

Bydd y rhan fwyaf o’r babanod hyn yn cael eu geni i deuluoedd lle nad oes unrhyw un arall wedi colli clyw.

Mae cael gwybod yn gynnar yn bwysig ar gyfer datblygiad eich babi. Mae hyn yn golygu y gallwch gael rhagor o gymorth a gwybodaeth i’ch helpu chi a’ch babi.

 

Pa mor gywir yw'r prawf?

Gall y prawf nodi colled clyw ar gam cynnar fel y gellir rhoi cymorth. Nid yw sgrinio yn canfod pob achos o golli clyw nac yn atal anawsterau clyw yn y dyfodol.

 

Ynglŷn â’r prawf

Os bydd eich babi’n cael ei eni yn yr ysbyty, efallai y byddwn yn cynnig y prawf i chi ar gyfer eich babi cyn i chi fynd adref. Os na, gellir ei wneud yn y gymuned, fel arfer mewn clinig.

Bydd sgriniwr yn cynnal y prawf. Mae dau fath o brawf y gellir eu defnyddio. Gwneir y prawf sgrinio pan fydd eich babi wedi setlo neu’n cysgu. Ni fydd yn brifo nac yn niweidio eich babi a dim ond ychydig funudau y mae’n ei gymryd. Gallwch aros gyda’ch babi tra bydd y prawf yn cael ei wneud.

Rhoddir teclyn clust â blaen meddal yn rhan allanol clust eich babi. Mae hyn yn gwneud sŵn clicio. Mae’r offer yn dangos i’r sgriniwr sut mae clustiau eich babi yn ymateb i’r sŵn.

Os na fydd yr offer yn nodi ymateb clir, efallai y bydd y sgriniwr yn gwneud prawf gwahanol. Rhoddir tri phad gludiog bach ar ben a gwddf eich babi. Rhoddir clustffonau bach dros glustiau’ch babi a fydd yn gwneud sŵn clicio. Mae’r offer yn dangos i’r sgriniwr sut mae clustiau eich babi yn ymateb i’r sŵn.

Bydd y sgriniwr yn dweud canlyniad y prawf wrthych yn syth ac yn esbonio a oes angen prawf arall.

 

 

Canlyniadau

Mae tri chanlyniad posibl:

Ymateb clir

Mae gan y rhan fwyaf o fabanod ymateb clir o un glust neu’r ddwy glust. Mae hyn yn golygu ei bod yn annhebygol bod gan eich babi golled clyw. Bydd y sgriniwr yn rhoi gwybodaeth i chi am sut mae babanod yn ymateb i sŵn wrth iddynt dyfu. Byddant yn dweud wrthych beth i’w wneud os ydych yn poeni am glyw eich babi.

Os mai dim ond un o glustiau eich babi sy’n dangos ymateb clir

Mae rhai babanod yn dangos ymateb clir mewn un glust yn unig. Os bydd hyn yn digwydd, efallai y byddwch yn dewis cael prawf clyw arall. Bydd y sgriniwr yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi.

Os nad yw'r maill na'r llall o glustiau eich babi yn dangos ymateb clir

Mae rhai babanod nad ydynt yn dangos ymateb clir yn y naill glust na’r llall. Nid yw bob amser yn golygu gan eich babi golled clyw.

Bydd y sgriniwr yn cynnig prawf clyw arall ar gyfer eich babi. Bydd yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am yr hyn sy’n digwydd nesaf.

Efallai na welir ymatebion clir os yw’r canlynol yn wir:

  • Nid yw eich babi wedi setlo;
  • Mae hylif yn y glust (o’r enedigaeth);
  • Mae gormod o sŵn ger y babi pan wneir y prawf; neu
  • Mae colled clyw.


Rhagor o brofion

Allan o 100 o fabanod sy'n cael eu geni. Bydd angen rhagor o brofion ar 1 neu 2. 

Os bydd angen rhagor o brofion, bydd awdiolegydd (arbenigwr clyw) yn anfon apwyntiad. Bydd hyn yn cael ei anfon o fewn pedair wythnos i’r adeg y cawsoch gan-lyniad sgrinio clyw eich babi.

Mae hyn yn rhoi amser i glyw eich babi ddatblygu.

Gall aros am brawf clyw arall beri pryder. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, gallwch gysylltu â sgrinio clyw babanod neu siarad â'ch ymwelydd iechyd.

 

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am sgrinio babanod, neu os hoffech wybodaeth ar ffurf Hawdd ei Deall, Iaith Arwyddion Prydain (BSL), sain neu brint bras, cysylltwch â’ch swyddfa sgrinio leol neu ewch i’n gwefan:

De-ddwyrain Cymru: 029 21843568

De-orllewin Cymru: 01792 343364

Gogledd Cymru: 03000 848710

phw.newbornhearing@wales.nhs.uk

www.icc.gig.cymru/sgrinio-clyw-babanod-cymru

Gallwch gysylltu â ni yn Gymraeg neu Saesneg. Bydd yn cymryd yr un faint o amser i’ch ateb, pa bynnag iaith rydych yn ei dewis.

Am mwy gwybodaeth on sut rydym ni yn defnyddio eich gwybodaeth, ewch i’n gwefan:

www.icc.gig.cymru/hysbysiad-preifatrwydd