― Beth yw sgrinio clyw babanod?
― Pam ddylai fy mabi gael prawf sgrinio clyw?
― Ynglŷn â’r prawf
― Canlyniadau
― Rhagor o brofion
― Rhagor o wybodaeth
Mae pob babi yn cael cynnig gwiriadau iechyd yn ystod wythnosau cyntaf ei fywyd. Un o’r profon hyn yw prawf sgrinio clyw. Mae hwn yn brawf cyfym a syml ac ni fydd yn niweidio’ch babi. Mae angen prawf arall mewn clinig ysbyty ar rai babanod. Gallwch ddewis p’un a yw eich babi yn cael sgrinio clyw ai peidio.
Os yw eich babi’n cael ei eni’n gynnar iawn, efallai na fydd y prawf sgrinio clyw yn cael ei wneud ar unwaith. Bydd y gweithiwr iechyd profesiynol sy’n gofalu am eich babi yn rhoi gwybod i chi pryd y bydd hyn yn cael ei wneud.
Allan o 1,000 0 fabanod sy'n cael eu geni, bydd gan 1 neu 2 golled clyw. Bydd y rhan fwyaf o’r babanod hyn yn cael eu geni i deuluoedd lle nad oes unrhyw un arall wedi colli clyw. Efallai y bydd babi y mae angen gofal arbennig arno yn fwy tebygol o gael colled clyw.
Nid yw’n hawdd i rieni ddweud os oes gan fabi ifanc golled clyw. Mae cael gwybod yn gynnar yn bwysig ar gyfer datblygiad eich babi. Mae hyn yn golygu y gallwch gael rhagor o gymorth a gwybodaeth i’ch helpu chi a’ch babi.
Nid yw sgrinio yn dod o hyd i bob achos o golled clyw nac yn atal anawsterau clyw yn y dyfodol.
Rydym yn ceisio cynnig y prawf i chi ar gyfer eich babi cyn iddo fynd adref o’r ysbyty. Os na, gellir ei wneud yn y gymuned, fel arfer mewn clinig.
Bydd sgriniwr yn gwneud y prawf pan fydd eich babi wedi setlo neu’n cysgu. Ni fydd yn brifo nac yn niweidio eich babi a dim ond ychydig funudau y mae’n ei gymryd. Gallwch aros gyda’ch babi tra bydd y prawf yn cael ei wneud.
Bydd y sgriniwr yn rhoi padiau gludiog bach ar ben a gwddf eich babi. Rhoddir clustfonau bach dros glustiau eich babi. Bydd y clustfonau hyn yn gwneud sŵn clicio. Mae’r ofer yn dangos i’r sgriniwr sut mae clustiau eich babi yn ymateb i’r sŵn.
Bydd y sgriniwr yn dweud canlyniad y prawf wrthych yn syth ac yn esbonio a oes angen prawf arall.
Ymateb clir
Os bydd dwy glust eich babi’n dangos ymateb clir, mae’n annhebygol bod gan eich baban golled clyw. Bydd y sgriniwr yn rhoi gwybodaeth i chi am sut mae babanod yn ymateb i sŵn wrth iddynt dyfu. Byddant yn dweud wrthych beth i’w wneud os ydych yn poeni am glyw eich babi.
Os nad yw’r naill na’r llall neu dim ond un o glustiau eich babi yn dangos ymateb clir
Nid yw hyn bob amser yn golygu bod gan eich babi golled clyw. Efallai na welir ymatebion clir os yw’r canlynol yn wir:
Bydd y sgriniwr yn cynnig prawf clyw arall i’ch babi gydag awdiolegydd (arbenigwr clyw). Mae angen gwneud y profion yn pan fydd eich babi’n dal i fod yn debygol o gysgu llawer yn ystod y dydd. Bydd y sgriniwr yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am yr hyn sy’n digwydd nesaf.
Allan o 100 o fabanod sy'n cael eu geni, bydd angen o rhagor brofion ar 1 neu 2.
Os bydd angen rhagor o brofion, ydd yr awdiolegydd yn anfon apwyntiad. Bydd yn anfon hyn o fewn wyth wythnos i’r adeg y cawsoch ganlyniad sgrinio clyw eich babi.
Mae hyn yn rhoi amser i glyw eich babi ddatblygu.
Gall aros am brawf clyw arall beri pryder. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, gallwch gysylltu â sgrinio clyw babanod neu siarad â’ch nyrs gofal arbennig.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am sgrinio clyw babanod, neu os hofech wybodaeth ar furf Hawdd ei Deall, Iaith Arwyddion Prydain (BSL), sain neu brint bras, cysylltwch â’ch swyddfa sgrinio leol neu ewch i’n gwefan:
De-ddwyrain Cymru: 029 2184 3568
De-orllewin Cymru: 01792 343364
Gogledd Cymru: 03000 848710
sgrinio-clwy-babanod@wales.nhs.uk
www.icc.gig.cymru/sgrinio-clwy-babanod
Gallwch gysylltu â ni yn Gymraeg neu Saesneg. Bydd yn cymryd yr un faint o amser i’ch ateb, pa bynnag iaith rydych yn ei dewis.
I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio gwybodaeth amdanoch, ewch i’n gwefan: www.icc.gig.cymru/hysbysiad-preifatrwydd