Neidio i'r prif gynnwy

Prawf sgrinio clyw eich babi

Gall y daflen hon eich helpu i benderfynu a ydych am i’ch babi gael prawf sgrinio clyw.

 

 

Cynnwys

― Beth yw sgrinio clyw babanod?
Pam ddylai fy mabi gael prawf sgrinio clyw?
― Ynglŷn â'r prawf 
― Canlyniadau 
― Rhagor o brofion
― Rhagor o wybodaeth

Mae'r animeiddiad hwn yn rhoi gwybodaeth am y prawf sgrinio clyw a gynigir i chi ar gyfer eich babi ar ôl iddo gael ei eni.

 

Beth yw sgrinio clyw babanod?

Mae pob babi yn cael cynnig gwiriadau iechyd yn ystod wythnosau cyntaf ei fywyd. Un o’r profion yn yw prawf sgrinio clyw. Mae hwn yn brawf cyflym a syml ac ni fdd yn niweidio’ch babi. Mae angen prawf arall mewn clinig ysbyty ar rai babanod. Gallwch ddewis p’un a yw eich babi yn cael sgrinio clyw ai peidio.

 

Pam ddylai fy mabi gael prawf sgrinio clyw?

O bob 1,000 o fabanod sy'n cael eu geni. Bydd gan 1 neu 2 golled clyw.

Bydd y rhan fwyaf o’r babanod hyn yn cael eu geni i deuluoedd lle nad oes unrhyw un arall wedi colli clyw.

Nid yw’n hawdd i rieni ddweud os oes gan fabi ifanc golled clyw. Mae cael gwybod yn gynnar yn bwysig ar gyfer datblygiad eich babi. Mae hyn yn golygu y gallwch gael rhagor o gymorth a gwybodaeth i’ch helpu chi a’ch babi.

Nid yw sgrinio yn dod o hyd i bob achos o golled clyw nac yn atal anawsterau clyw yn y dyfodol.

 

Ynglŷn â’r prawf

Rydym yn ceisio cynnig y prawf i chi ar gyfer eich babi cyn iddo fynd adref o’r ysbyty. Os na, gellir ei wneud yn y gymuned, fel arfer mewn clinig.

Bydd sgriniwr yn gwneud y prawf pan fydd eich babi wedi setlo neu’n cysgu. Ni fydd yn brifo nac yn niweidio eich babi a dim ond ychydig funudau y mae’n ei gymryd. Gallwch aros gyda’ch babi tra bydd y prawf yn cael ei wneud.

Rhoddir teclyn clust â blaen meddal yn rhan allanol clust eich babi. Mae hyn yn gwneud sŵn clicio. Mae’r ofer yn dangos i’r sgriniwr sut mae clustiau eich babi yn ymateb i’r sŵn.

 

 

Os na fydd yr ofer yn nodi ymateb clir, efallai y bydd y sgriniwr yn gwneud prawf gwahanol. Efallai y byddant yn gwneud prawf lle rhoddir padiau gludiog bach ar ben a gwddf eich babi.  Rhoddir clustfonau bach dros glustiau eich babi. Bydd y clustfonau hyn yn gwneud sŵn clicio. Mae’r ofer yn dangos i’r sgriniwr sut mae clustiau eich babi yn ymateb i’r sŵn.

 

 

 

 

Canlyniadau

Bydd y sgriniwr yn dweud canlyniad y prawf wrthych yn syth ac yn esbonio a oes angen prawf arall.

Mae tri chanlyniad posibl:

Ymateb clir

Mae gan y rhan fwyaf o fabanod ymateb clir o un glust neu’r ddwy glust. Mae hyn yn golygu ei bod yn annhebygol bod gan eich babi golled clyw. Bydd y sgriniwr yn rhoi gwybodaeth i chi am sut mae babanod yn ymateb i sŵn wrth iddynt dyfu. Byddant yn dweud wrthych beth i’w wneud os ydych yn poeni am glyw eich babi.

Os mai dim ond un o glustiau eich babi sy’n dangos ymateb clir

Mae rhai babanod yn dangos ymateb clir mewn un glust yn unig. Os bydd hyn yn digwydd, efallai y byddwch yn dewis cael prawf clyw arall. Bydd y sgriniwr yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi.

Os nad yw'r maill na'r llall o glustiau eich babi yn dangos ymateb clir

Mae rhai babanod nad ydynt yn dangos ymateb clir yn y naill glust na’r llall. Nid yw hyn bob amser yn golygu bod gan eich babi golled clyw.

Efallai na welir ymatebion clir os yw’r canlynol yn wir:

  • nid yw eich babi wedi setlo;
  • mae hylif yn y glust (o’r enedigaeth);
  • mae gormod o sŵn ger eich babi pan wneir y prawf; neu'n
  • mae gan eich babi golled clyw.

Bydd y sgriniwr yn cynnig prawf clyw arall i’ch babi gydag awdiolegydd (arbenigwr clyw). Mae angen gwneud y profion yn pan fydd eich babi’n dal i fod yn debygol o gysgu llawer yn ystod y dydd. Bydd y sgriniwr yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am yr hyn sy’n digwydd nesaf.


Rhagor o brofion

Allan o 100 o fabanod sy'n cael eu geni. Bydd angen rhagor o brofion ar 1 neu 2. 

Os bydd angen rhagor o brofion, ydd yr awdiolegydd yn anfon apwyntiad. Bydd yn anfon hyn o fewn 4 wythnos i’r adeg y cawsoch ganlyniad sgrinio clyw eich babi.

Mae hyn yn rhoi amser i glyw eich babi ddatblygu.

Gall aros am brawf clyw arall beri pryder. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, gallwch gysylltu â sgrinio clyw babanod neu siarad â’ch ymwelydd iechyd.

 

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am sgrinio babanod, neu os hoffech wybodaeth ar ffurf Hawdd ei Deall, Iaith Arwyddion Prydain (BSL), sain neu brint bras, cysylltwch â’ch swyddfa sgrinio leol neu ewch i’n gwefan:

De-ddwyrain Cymru: 029 21843568

De-orllewin Cymru: 01792 343364

Gogledd Cymru: 03000 848710

sgrinio-clyw-babanod@wales.nhs.uk

www.icc.gig.cymru/sgrinio-clyw-babanod-cymru

Gallwch gysylltu â ni yn Gymraeg neu Saesneg. Bydd yn cymryd yr un faint o amser i’ch ateb, pa bynnag iaith rydych yn ei dewis.

Am mwy gwybodaeth on sut rydym ni yn defnyddio eich gwybodaeth, ewch i’n gwefan: 

www.icc.gig.cymru/hysbysiad-preifatrwydd