Mae’r wybodaeth hon ar gyfer menywod sydd wedi dod i gael eu sgrinio ac sydd â mewnblaniadau bron neu lenwyr bron i’w chwistrellu.
Os oes gennych mewnblaniadau bron neu lenwyr bron, mae’n bwysig eich bod yn dweud wrth y radiograffydd cyn i chi gael eich sgrinio.
Mae mewnblaniadau bron neu lenwyr bron yn ei wneud yn fwy anodd i’r radiograffydd gynnal y sgrinio. Mae hyn am fod meinwe’r fron eisoes yn cael ei wasgu gan y mewnblaniad neu’n llenwr. Bydd y radiograffydd yn pwyso (neu’n gwasgu) yn ysgafn gan ddefnyddio’r peiriant pelydr-x tra’n gwneud y mamogram. Nid yw’r pwysau hwn yn debygol o niweidio’r mewnblaniad neu’r llenwr.
Bydd y daflen wybodaeth a gawsoch gyda’ch gwahoddiad yn esbonio nad oes gan sgrinio’r fron gywirdeb o 100%. Nid yw Sgrinio’r Fron yn atal canser. Am fod y mewnblaniad neu’r llenwr yn ddwys, bydd yn cuddio rhywfaint o feinwe’r fron ac mae siawns, os oes gennych ganser, na fydd yn cael ei weld ar y pelydr-x.
Os oes gennych fewnblaniadau bron neu lenwyr bron, mae’n bwysig iawn eich bod yn parhau i chwilio am newidiadau yn eich bronnau ar ôl sgrinio’r fron. Dylech weld eich meddyg ar unwaith os ydych yn canfod unrhyw beth anarferol.