Mae'r adroddiad hwn yn grynodeb manwl o wybodaeth am y gwaith a wnaed gan Raglen Sgrinio'r Fron yng Nghymru ar gyfer y flwyddyn Ebrill 2022 hyd at ddiwedd Mawrth 2023. Mae’n cyflwyno data allweddol, cyflawniadau, a meysydd i'w gwella.
Prif nod sgrinio’r fron yw lleihau cyfraddau marwolaethau drwy adnabod canser y fron yn ei gamau cynnar, yn aml cyn i symptomau ymddangos. Mae menywod rhwng 50 a 70 oed sy'n byw yng Nghymru ac wedi cofrestru gyda Meddyg Teulu yn cael eu gwahodd i gael mamogram (pelydr-X o'r bronnau) bob tair blynedd.
Dros y cyfnod 2022/23 cynyddodd y rhaglen y gweithgarwch cyffredinol, a gwahoddwyd mwy o gyfranogwyr er mwyn lleihau hyd y cylch sgrinio estynedig yn dilyn y pandemig. Effeithiodd y pandemig ar sgrinio'r fron gan achosi gostyngiad yn y capasiti cyffredinol ac amseroedd aros hirach am wahoddiadau sgrinio.
Roedd cyflawni safonau o ran nifer a chwmpas y rhai a oedd yn cael eu sgrinio yn parhau i fod yn heriol dros y cyfnod hwn. Fodd bynnag, cafwyd gwelliant yn y cyfraddau darganfod canser, ac roedd nifer sylweddol o'r canserau ymledol a ddarganfuwyd yn llai na 15mm, felly'n fach ac yn annhebygol y byddent wedi’u darganfod drwy deimlo â llaw.
Yn 2023/24 canolbwyntiodd y rhaglen ar wella amseroldeb cyffredinol dangosyddion allweddol y rhaglen a rhoddwyd pwyslais penodol ar amseroedd cyflwyno canlyniadau a chyflawni amseroedd aros byrrach i fynd i glinigau asesu, ac adferiad llawn yn safon hyd y cylch sgrinio 36 mis.
Cafodd nifer o ffrydiau gwaith allweddol eu datblygu yn ystod y cyfnod hwn, gan gynnwys datblygu system ddemograffeg newydd i sicrhau sefydlogrwydd hirdymor y systemau sy'n ofynnol i nodi a gwahodd cyfranogwyr cymwys (DEWIS). Mae'r fflyd o unedau symudol ar gyfer sgrinio'r fron a'r clinigau asesu wedi cwblhau proses uwchraddio offer gynhwysfawr ac mae’r systemau mamograffeg diweddaraf ar waith ynddynt.
Mae Bron Brawf Cymru yn gweithio gyda Byrddau Iechyd Cymru i ddatblygu llwybr sy'n cydymffurfio â NICE ar gyfer menywod sydd â risg uchel iawn o ganser y fron. Mae’n sicrhau y bydd ganddynt fynediad at sganiau MRI a'r amlder priodol ar gyfer sgrinio’r fron ledled Cymru.
Mae'r adroddiad hwn yn cwmpasu gweithgarwch yn y cyfnod rhwng Ebrill 2022 a Mawrth 2023.