Mae retinopathi yn cael ei achosi pan fydd pibellau gwaed bach yn y retina yn tyfu neu'n gollwng. Dros amser, gall hyn effeithio ar olwg dros dro neu'n barhaol.
Hyd nes iddo gyrraedd cam hwyr, nid yw'r rhan fwyaf o bobl â retinopathi yn profi unrhyw symptomau na cholli golwg; nid ydynt yn gwybod yr effeithir arnynt.
Sgrinio llygaid yn rheolaidd yw'r ffordd orau o nodi a oes unrhyw retinopathi yn bresennol.
Gall retinopathi cam cynnar gael ei wrthdroi drwy gadw lefelau siwgr gwaed o fewn yr ystod darged; gall retinopathi mwy datblygedig gael ei drin gan bigiadau llygaid neu gan laser.
Mae Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru yn cynnig prawf sgrinio am ddim gan y GIG a gynhelir mewn lleoliadau cymunedol ledled Cymru.
Nid yw'r prawf sgrinio yn 100% gywir ac mae risgiau'n gysylltiedig â thriniaeth ar gyfer retinopathi diabetig.
Dewis y cyfranogwr yw cymryd rhan mewn sgrinio llygaid diabetig.
Croeso i'r pumed adroddiad ystadegol blynyddol a gyhoeddir gan Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru (DESW), Iechyd Cyhoeddus Cymru. Nod y gwasanaeth yw canfod retinopathi diabetig cyn colli golwg. Mae tystiolaeth ymchwil yn dangos bod nodi a thriniaeth gynnar yn gallu atal colli golwg mewn 70 – 90% o bobl â retinopathi diabetig sy'n bygwth golwg.1, 2
Cafodd DESW (Gwasanaeth Sgrinio Retinopathi Diabetig Cymru yn flaenorol) ei gomisiynu'n wreiddiol fel gwasanaeth cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2002. Daeth DESW yn weithredol ym mis Mehefin 2003 ac erbyn 2004 roedd yn darparu gwasanaeth i gyfranogwyr ym mhob ardal Bwrdd Iechyd. Cafodd y gwasanaeth ei gynnal gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro tan fis Ebrill 2016 pan drosglwyddodd i ymuno â'r Rhaglenni Sgrinio seiliedig ar boblogaeth eraill a ddarperir gan yr Adran Sgrinio, Iechyd Cyhoeddus Cymru.
1 Diabetic Retinopathy Study Research Group (1981) Photocoagulation treatment of proliferative diabetic retinopathy. Clinical application of Diabetic Retinopathy Study (DRS) findings, DRS Report Number 8. Ophthalmology 88: 583–600.
2 Early Treatment Diabetic Retinopathy Study (ETDRS) Research Group (1985) Photocoagulation for diabetic macular oedema. Early Treatment Diabetic Retinopathy Study report number 1. Archive Ophthalmology 103: 1796–806.
Mae clinigau DESW yn parhau i gael eu cynnal o gymysgedd o safleoedd sefydlog a safleoedd nad ydynt yn sefydlog, ar draws lleoliadau iechyd, gofal cymdeithasol, a chymunedol. Mae'r safleoedd sefydlog yn cynnwys ein canolfannau staff ym Mharc Dewi Sant yng Nghaerfyrddin, Llys Britannia ym Mangor, ac Ysbyty Maelor Wrecsam. Yn ogystal, mae gennym fynediad at glinigau sefydlog yng Nghlinig Clytha yng Nghasnewydd, Ysbyty'r Barri, a Chanolfan Iechyd Mountain View yn Abertawe. Yn dilyn effaith pandemig Covid-19, mae DESW bellach yn gweithredu o 75 o leoliadau nad ydynt yn sefydlog, mewn amrywiaeth o leoliadau iechyd, gofal cymdeithasol a chymunedol. Mae'r rhain wedi'u lleoli ar draws yr holl Ardaloedd Awdurdodau Lleol yng Nghymru, gyda'r nod o gynnig apwyntiadau clinig i bob cod post o fewn 45 munud mewn car.
Drwy gydol 2022-23 mae wedi canolbwyntio ar barhau i adfer y Rhaglen yn dilyn pandemig Covid-19. Roedd cynnydd o ran sicrhau nifer cynyddol o leoliadau a gostyngiadau mewn rheoliadau cadw pellter cymdeithasol wedi sicrhau bod capasiti ar gyfer apwyntiadau clinigau wedi tyfu'n barhaus. Cynyddodd y gyfradd atgyfeirio i'r Rhaglen hefyd, ar ôl dechrau eleni ar gyfradd is (76% o ffigurau atgyfeirio 2019-20) gorffennodd ar ôl dychwelyd i lefelau cyn y pandemig.
Dechreuodd DESW gynnal clinigau dyddiol yng Nghanolfan Sgrinio newydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn Aberpennar (Tŷ Rhos) ar ddechrau mis Gorffennaf, gyda'r adeilad yn cael ei agor yn swyddogol gan Weinidog Iechyd Cymru Eluned Morgan AS ar 15 Awst 2022. Hyd yma, rydym wedi cael adborth cadarnhaol iawn gan y cyfranogwyr a'r staff fel ei gilydd ynghylch y lle sgrinio newydd. Mae'r lleoliad yn cynnwys pedair o ystafelloedd clinig, sy'n cael eu defnyddio'n rheolaidd gan raglenni DESW, Sgrinio Clyw Babanod, a Sgrinio Ymlediadau Aortig Abdomenol. Mae'r lleoliad mewn man delfrydol ar y stryd fawr yn Aberpennar, sy'n dod â budd gwell hygyrchedd gydag arosfannau trafnidiaeth gyhoeddus (bws a thrên) yn agos iawn.
Yn ogystal â chanolbwyntio ar adfer apwyntiadau clinigau sgrinio, mae DESW wedi gwneud gwaith trawsnewid gyda'r bwriad o ddatblygu Model Gwasanaeth yn y Dyfodol ar gyfer sgrinio llygaid yng Nghymru. Adolygodd timau prosiect bob agwedd ar y Rhaglen a gwerthusodd ffyrdd newydd o weithio.
Eleni, cytunodd Llywodraeth Cymru ar newid polisi, yn unol â phenderfyniad ar sail tystiolaeth gan Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU (UKNSC) y gall pobl â diabetes y nodwyd eu bod yn wynebu risg isel o retinopathi diabetig gael eu sgrinio'n ddiogel bob dwy flynedd. Mae hyn yn newid o'r trefniadau blaenorol lle gwahoddwyd pawb â diabetes math 1 neu fath 2 a oedd yn 12 oed neu drosodd i gael eu sgrinio yn flynyddol. Mae holl raglenni sgrinio'r DU yn y broses o weithredu'r un newid. Cafodd argymhellion eu cyflwyno i Bwyllgor Sgrinio Cymru (WSC) a'u cytuno ganddo, gyda'r bwriad o gyflwyno'r llwybr newydd yn chwarter cyntaf 2023/24. Bydd y llwybr newydd hwn yn cael ei adnabod yn lleol fel y Llwybr Ailalw Risg Isel (LRRP).
Bydd tîm prosiect gweithredu DESW yn goruchwylio ac yn trefnu'r ymgysylltu gofynnol â rhanddeiliaid, dulliau a deunyddiau cyfathrebu, unrhyw hyfforddiant staff, ac uwchraddio'r system TG, er mwyn sicrhau'r newid hwn yn llwyddiannus.
Mae'r adroddiad hwn yn cwmpasu gweithgarwch o fis Ebrill 2022 i fis Mawrth 2023 yn gynhwysol.