Mae’n bwysig cael cysondeb ledled Cymru wrth fesur a chofnodi canlyniadau.
Am wybodaeth ychwanegol am ofynion, prosesau a thechneg mesur CMP, gweler Safonau'r Rhaglen Mesur Plant (sy’n disgrifio beth sy’n ofynnol) a’r Canllawiau (gwybodaeth ynghylch sut bydd Byrddau Iechyd yn bodloni’r safonau.)
Cynghorir staff i edrych ar eu fersiwn lleol nhw o'r canllawiau, am y gallai’r rhain gynnwys enghreifftiau o dempledi llythyrau lleol, prosesau, polisïau a chanllawiau lleol (e.e. prosesau lleol ar gyfer rhoi adborth ar ganlyniadau, copïau o dempledi llythyrau lleol, disgwyliadau olrhain, polisïau atgyfeirio ac adnoddau lleol eraill.)
Adnoddau
- Siart llif ar gyfer Rhaglen Mesur Plant Cymru
- Ffurflen Sampl Atodlen
- Ffurflen heb ei Drefnu
- Sampl Llythyr Gwybodaeth i Rhieni – gall Byrddau Iechyd greu eu fersiwn eu hunain, gan ddefnyddio’r enghraifft hon sy’n bodloni arferion gwaith lleol yn ogystal â rhoi’r wybodaeth ganlynol i rieni:
- Y broses leol ar gyfer tynnu eu plentyn allan o’r CMP
- Y broses leol ar gyfer cael canlyniadau
- Sut i gysylltu â’r nyrs ysgol i drafod pryderon
- Llythyr Canlyniadau Sampl: Cymraeg a Saesneg
- Taflen Rhaglen Mesur Plant i rieni: Taflen wedi ei dylunio i roi gwybodaeth i rieni am Raglen Mesur Plant Cymru. O leiaf pythefnos cyn i’r mesuriadau gael eu cynnal, dylid rhoi copi o’r daflen hon a llythyr esboniadol i’r plentyn yn yr ysgol i’w rhoi i’w rieni. Mae’r daflen ar gael mewn wyth iaith (Cymraeg, Saesneg, Arabeg, Bengaleg, Pwylaidd, Portugaleg, Tagalog, Wrdw), yn ogystal â fersiwn 'hawdd ei ddeall' (Cymraeg / Saesneg)
- Poster ar gyfer eu defnyddio mewn ysgolion