Mae’r tîm Iechyd Deintyddol Cyhoeddus yn rhoi arweiniad ar ddatblygu a gwella gwybodaeth am iechyd y geg, ac yn darparu cyngor a chymorth arbenigol i randdeiliaid. Mae’r rhain yn cynnwys Llywodraeth Cymru, Byrddau Iechyd, timau gwahanol o fewn system iechyd y cyhoedd yng Nghymru a chyrff statudol eraill.
Disgrifir ein swyddogaeth mewn perthynas â gwybodaeth am iechyd y geg yng Nghylchlythyr Iechyd Cymru ar gyfer Iechyd Deintyddol y Cyhoedd [WHC (2021) 032].
Rydym yn gyfrifol am arwain, cynnal a chyflawni'r Rhaglen Epidemioleg Ddeintyddol i Gymru, gan weithio ochr yn ochr ag Uned Gwybodaeth Iechyd Geneuol Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd a Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol mewn Byrddau Iechyd. Mae hyn yn pennu lefel y clefydau deintyddol ymysg plant 5 oed, plant 12 oed a charfannau o oedolion a'u heffaith arnynt. Mae'r wybodaeth a gesglir yn hanfodol i lunio polisi deintyddol Llywodraeth Cymru ar wasanaethau deintyddol ac iechyd y geg, diwygio'r system ddeintyddol yn barhaus a chynllunio gwasanaethau deintyddol lleol.
Mae’r swyddogaeth gwybodaeth am iechyd y geg hefyd yn anelu at ymchwilio i’r anghydraddoldebau o ran darpariaeth, mynediad a chanlyniadau gwasanaethau deintyddol y GIG. Dylai'r wybodaeth hon helpu byrddau iechyd wrth gynllunio eu gwasanaethau deintyddol lleol gan gynnwys sefydlu llwybrau i wella gofal a dylanwadu ar bolisi deintyddol Llywodraeth Cymru mewn perthynas â gwasanaethau deintyddol ac iechyd y geg.
Mae swyddogaeth gwybodaeth iechyd y geg hefyd yn adrodd ar atgyfeiriadau gan y Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol ar gyfer rheoli pydredd dannedd pediatrig. Rydym yn adrodd yn flynyddol ar nifer y triniaethau deintyddol o dan anesthetig cyffredinol a ddarperir i blant 0-17 oed yng Nghymru.
Atgyfeiriadau o ofal sylfaenol ar gyfer rheoli pydredd dannedd pediatrig 2023
Y Defnydd o Anaestheteg Cyffredinol Wrth Roi Triniaeth Ddeintyddol i Blant yng Nghymru 2019-2020
Adroddiadau blynyddol ar anesthetig cyffredinol mewn triniaethau deintyddol plant | LLYW.CYMRU
Gan ddefnyddio data Uned Gwybodaeth a Gwyliadwriaeth Canser Cymru, rydym yn adrodd ar gyfraddau canser y geg a'r ffaryncs yng Nghymru.
Dadansoddiad o gyfraddau canser y geg a'r ffaryncs yng Nghymru 2024
Dadansoddiad o gyfraddau canser y geg a'r ffaryncs Nghymru Awst 2023
Sleidiau Mis Gweithredu Canser y Geg Tachwedd 2023
Ystadegau Llywodraeth Cymru Gwasanaethau deintyddol GIG: https://llyw.cymru/gwasanaethau-deintyddol-gig
StatsCymru Gwasanaethau deintyddol cyffredinol: https://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Health-and-Social-Care/General-Dental-Services
Diweddarwyd ddiwethaf: 23/08/2024