Neidio i'r prif gynnwy

Lefelau Paill Uchel

Mae paill yn gallu sbarduno adweithiau alergaidd, gan gynnwys clefyd y gwair, a gall wneud cyflyrau fel asthma yn waeth.

Mae lefel a math y paill yn yr awyr yn dibynnu ar yr adeg o'r flwyddyn a'r lle. Fel arfer, mae clefyd y gwair yn cael ei achosi gan beilliau gwair ar ddiwedd y gwanwyn a dechrau'r haf.

Mae Swyddfa Dywydd y DU yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cyfrifiad paill ac mae'n cyhoeddi rhagolwg paill. Mae'n dda dysgu pa lefelau a allai effeithio arnoch chi.

Gall stormydd taranau sbarduno asthma. Y rheswm am hyn yw bod aer llaith yn cyfuno â phaill ac yn cael ei chwythu o gwmpas.