Neidio i'r prif gynnwy

Amddiffyn rhag yr Haul

Cyngor i oedolion a phlant ar amddiffyn rhag yr haul ac eli haul.

Mae llosg haul yn cynyddu eich risg o gael canser y croen. Nid rhywbeth sydd yn digwydd i bobl ar eu gwyliau yn unig neu ddim ond yn ystod tywydd poeth yw llosg haul. Mae’n bosib cael llosg haul yn y DU, hyd yn oed os yw'r tywydd yn gymylog ac yn oer.

Nid oes unrhyw ffordd ddiogel neu iach o gael lliw haul. Nid yw lliw haul yn amddiffyn eich croen rhag effeithiau niweidiol yr haul.

Dylech geisio sicrhau cydbwysedd rhwng amddiffyn eich hun rhag yr haul a chael digon o fitamin D gan olau'r haul.