Ym mis Medi 2013, cynhaliodd Iechyd Cyhoeddus Cymru adolygiad o’r sŵn sy'n deillio o dyrbinau gwynt a’i effaith ar iechyd.
Dyma’r prif ganfyddiadau:
Rydym wedi adolygu'r dystiolaeth o sŵn a gynhyrchir gan dyrbinau gwynt ac iechyd.
Ni wnaeth yr adolygiad hwn nodi unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod sŵn tyrbinau gwynt yn cael effaith ffisiolegol uniongyrchol ar iechyd.
Mae nodweddion sŵn a gynhyrchir gan dyrbinau yn amrywio, gyda modyliad osgled a sŵn amledd isel yn agweddau allweddol ar gwynion cysylltiedig.
Efallai y bydd canfyddiad o’r effeithiau andwyol ar iechyd sy'n gysylltiedig â thyrbinau gwynt yn cael ei ddylanwadu yn ôl sut mae tyrbinau'n edrych, pryder ynghylch eu heffaith ar amgylcheddau lleol a ffactorau personol ac economaidd.
Rydym yn cydnabod y gall anfodlonrwydd â thyrbinau gwynt gweithredol achosi straen a phryder a all, yn ei dro, effeithio ar ansawdd bywyd.
Dylid nodi y gall sŵn effeithio ar bobl a chymunedau gwahanol mewn ffyrdd gwahanol.
Daeth y rhan fwyaf o'r dystiolaeth a adolygwyd o astudiaethau a gynhaliwyd y tu allan i'r DU.
Roedd y dystiolaeth yn pwyntio'n gryf at effaith weledol tyrbinau fel ffactor addasu o ran anfodlonrwydd. Mae'r cysyniad o ‘anfodlonrwydd’ yn gymhleth, yn oddrychol ac yn anodd ei fesur yn ddiduedd.
Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol (fel rheoleiddwyr sŵn a gynhyrchir gan dyrbinau) ac eraill, gan gynnwys y cyhoedd, er mwyn deall a, lle bo hynny'n bosibl, lleihau pryderon iechyd y boblogaeth leol sy'n gysylltiedig â sŵn tyrbinau gwynt.
Caiff y datganiad hwn ei adolygu o bryd i'w gilydd i adlewyrchu'r sylfaen dystiolaeth sy'n datblygu yn y maes hwn.