Mae tir yn adnodd pwysig ac mae galw mawr am ei ddatblygu a’i ailddefnyddio. Gall tir sydd wedi cael ei ddefnyddio’n flaenorol fod wedi’i lygru gan beri risg o bosib i ddefnyddwyr yn y dyfodol. Hyd yma mae tua 10,000 o safleoedd o’r fath wedi cael eu datgan yng Nghymru (NRW 2016)
Gan fod Cymru wedi bod yn wlad o weithgarwch mwyngloddio a mwyndoddi, a gwaddodi o egsôsts cerbydau sydd wedi’u defnyddio, mae plwm yn llygredd cyffredin yn ein pridd ni. Ond drwy fwyd a dŵr yfed mae pobl yn dod i gysylltiad ag ef yn bennaf, a phibellau gwasanaethu plwm ac mae gwaith plymio mewn tai yn ffynhonnell fawr hefyd. Dilynwch y ddolen i gael gwybod mwy am blwm mewn dŵr yfed.