Gall eich syniadau chi ar gyfer newid wneud gwahaniaeth i bobl yn eich gofal, i’ch sefydliad ac i’r system iechyd a gofal yn ei chyfanrwydd. Trwy gynnig am y Gwobrau, gallwch godi proffil eich gwaith a bod yn rhan o fudiad cenedlaethol sy’n rhannu dysgu ledled Cymru. Mae’r cynigion ar gyfer y Gwobrau wedi mynd o nerth i nerth dros y 13 blynedd diwethaf a gwyddom y bydd eleni, eto, yn parhau i ysbrydoli.
Mae’r Gwobrau ar agor i holl staff GIG Cymru, gan gynnwys myfyrwyr. Dyma’r wyth categori:
Hefyd, cyflwynir gwobr y Cyfraniad Eithriadol at Drawsnewid Iechyd a Gofal i enillydd cyffredinol o’r wyth categori.
Meddai Dr Andrew Goodall CBE, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru: “Mae’r Gwobrau’n gyfle i ddathlu doniau, ymroddiad a dyfeisgarwch staff sy’n ymdrechu i wella’r deilliannau i bobl sy’n defnyddio gwasanaethau yng Nghymru.
“Byddwn yn annog pawb sy’n gweithio yn y GIG i fanteisio ar y cyfle hwn i rannu’u gwaith caled a’u llwyddiant trwy gynnig am Wobrau GIG Cymru 2020.”
Os cewch eich dewis ar gyfer y rownd derfynol, bydd ein beirniaid yn ymweld â chi i ddysgu rhagor a chewch wahoddiad i’r Seremoni Wobrwyo fawreddog. Pwy ŵyr....efallai mai chi fydd un o’r enillwyr!
Fel enillydd, cewch gynnig cymorth parhaus gan dîm y Gwobrau a bydd gennych lwyfan i rannu’ch gwaith yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, fel y gallwn helpu i drawsnewid iechyd a gofal.
Mae’n hawdd cynnig am y gwobrau; dilynwch y pum cam syml canlynol:
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Terri Willis ar Terri.Willis@wales.nhs.uk neu 02920 104371.