Neidio i'r prif gynnwy

Ynglŷn â Seiciatreg Cyswllt

10/12/20
Beth yw'r gwaith yn y maes hwn?

Mae gwaith y tîm yn cynnwys:

  • Cefnogi’r grŵp llywio seiciatreg gyswllt cenedlaethol
  • Datblygu’r ‘Canllawiau Ar Ddarparu Gwasanaethau Seiciatreg Gyswllt (Cyswllt Iechyd Meddwl) yng Nghymru’
  • Datblygu Matrics Aeddfedrwydd ar gyfer Seiciatreg Gyswllt i gefnogi gwella ansawdd
  • Datblygu mecanweithiau i gasglu data clir a dibynadwy
10/12/20
Gyda phwy mae'r tîm yn gweithio?

Rydym yn gweithio gyda chynrychiolwyr o bob bwrdd iechyd yng Nghymru, cydweithwyr iechyd eraill a Llywodraeth Cymru

10/12/20
Beth yw'r camau nesaf?

Ar hyn o bryd, mae’r tîm yn: 

  • Datblygu’r rhaglen waith ar gyfer 2020/21
  • Adolygu’r canllawiau
  • Adolygu’r Matrics Aeddfedrwydd
10/12/20
Gyda phwy y dylwn gysylltu?

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Andrea Gray, Arweinydd Datblygu Iechyd Meddwl Cymru,  andrea.gray@wales.nhs.uk