Mae gwneud gwelliannau i'ch system yn daith. Mae'r Daith Gwella Ansawdd yn dangos y camau mewn prosiect gwella. Mae’n mapio’r 6 cham allweddol y bydd angen i chi eu cymryd er mwyn creu gwelliant parhaus:
Dysgwch ragor am bob cam isod a gweld pa offer a dulliau fydd yn eich cefnogi ar bob cam.
Ar ddechrau prosiect gwella, rhaid i'r amodau fod yn iawn. Mae angen ymdeimlad o frys i amlygu pam mae angen y newid. Bydd angen i chi ofyn am gefnogaeth sefydliadol, a chynnwys y bobl iawn sydd â gweledigaeth glir, pwrpas a gwerthoedd a rennir. Bydd cymryd yr amser i greu’r amodau cywir ar gyfer newid yn eich helpu i adeiladu sylfaen gref ar gyfer gwelliant parhaus.
Mae offer a gwybodaeth ddefnyddiol ar gael isod i'ch helpu yng nghamau cynnar eich prosiect gwella.
Gall systemau fod yn gymhleth, ac yn aml ni allwn weld yr holl rannau gwahanol. Mae'n hanfodol ein bod yn dod i adnabod y system gyfan yn hytrach nag edrych ar rannau ar eu pennau eu hunain cyn i ni wneud unrhyw newidiadau. Ar y cam hwn, mae'n bwysig deall data i weld sut mae pethau'n gweithio, a rhyngweithio â'r rhai sy'n eu defnyddio. Er enghraifft, gwrando ar adborth ac arsylwi ar ddefnyddwyr gwasanaeth, yn ogystal â gwrando ar y bobl sy'n gweithio yn y system.
Mae offer allweddol ar gael i'ch helpu i ddeall system. Rydym wedi rhestru ein hargymhellion isod.
Ar ôl i chi gwblhau cam 2, dylai fod gennych ddarlun clir o berfformiad y system ar hyn o bryd. Nawr mae angen i chi benderfynu beth rydych chi'n mynd i'w wella mewn gwirionedd, gan gynnwys sut olwg sydd ar “gwell” a sut y byddwch chi'n cyflawni hyn. Gyda nod clir, byddwch yn gallu datblygu syniadau ar gyfer newid y gellir eu profi ar ôl hynny.
P | Penodol | Beth fydd yn cael ei gyflawni? Pa gamau fyddwch chi'n eu cymryd? |
M | Mesurawdy | Pa ddata fydd yn mesur y nod? (Pa faint? Pa mor dda?) |
C | Cyflawnadwy | Ydy'r nod yn gyflawnadwy? Ydy'r sgiliau a'r adnoddau angenrheidiol gennych? |
P | Perthnasol | Sut mae'r nod yn alinio â'r nodau ehangach? Pam mae'r canlyniad yn bwysig? |
W | Wedi'i gyfyngu o ran amser | Beth yw'r amserlen ar gyfer cyflawni'r nod? |
Mae profi yn gam hollbwysig gan ei fod yn eich helpu i ddeall yr hyn sy'n gweithio a’r hyn nad yw’n gweithio. Mae'n bwysig cofio nad yw pob newid yn arwain at welliant. Bydd angen i chi benderfynu beth i'w fesur er mwyn gallu dangos eich bod wedi gwneud gwelliant.
Mae nifer o adnoddau ar gael isod i'ch cefnogi i brofi newidiadau.
Rydych chi'n barod i roi newid ar waith ar ôl i chi ei brofi mewn sefyllfaoedd amrywiol ac rydych chi'n hyderus ei fod yn effeithiol ac y bydd yn arwain at welliant. Gallwch fabwysiadu gwahanol ddulliau o roi eich syniad ar waith, gan gynnwys dull 'ewch amdani' neu ddull 'dilyniannol' gam wrth gam. Y naill ffordd neu'r llall, dylech ystyried creu polisïau a gweithdrefnau safonol, mesur i wirio eich bod ar y trywydd iawn ac addysgu'ch timau trwy gynnwys hyfforddiant yn y cyfnod ymsefydlu. Ystyriwch yr effaith y bydd eich newid yn ei chael ar y bobl dan sylw.
Rydym wedi darparu'r adnoddau canlynol i'ch helpu i roi eich newid ar waith.
Unwaith y byddwch wedi rhoi newid parhaus ar waith yn llwyddiannus, byddwch am ledaenu'ch newid lle bo'n briodol er budd cymaint o bobl â phosibl.
Bydd angen i chi ystyried addasu eich newid mewn cyd-destun gwahanol os oes angen. Bydd o gymorth os gallwch chi rannu eich taith wella ag eraill, gan esbonio'r manteision ac annog cefnogaeth.
Mae'r offer canlynol ar gael i'ch cefnogi i ledaenu eich gwelliant parhaus a bod o fudd i eraill.
Mae'n debygol y bydd eich Taith Gwella Ansawdd yn symud yn ôl yn ogystal ag ymlaen. Ar bob cam o'r daith, bydd angen i chi ystyried tair thema:
Cewch ragor o arweiniad a gwybodaeth ar wefan Turas.