Roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn canfod bod y galw yn fwy na’r capasiti ar gyfer cleifion a ryddhawyd o ofal cardioleg acíwt gyda diagnosis sylfaenol o Fethiant y Galon gyda llai o Ffracsiwn Alldafliad (HFrEF). Nid oedd modd gweld cleifion o fewn pythefnos ar ôl cael eu rhyddhau o'r ysbyty, ac roedd optimeiddio meddyginiaeth methiant y galon ar sail tystiolaeth yn cymryd dros ddwy flynedd mewn rhai achosion.
Cydweithiodd Gwasanaeth Methiant y Galon â Thîm Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth (VBHT) Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan i wella llwybr y claf, gan ddefnyddio tystiolaeth wedi'i galluogi gan ddata (canlyniadau cleifion a chlinigol). Cychwynnwyd prosiect i ddatblygu llwybr gofal gwell gan ddefnyddio egwyddorion gofal iechyd Seiliedig ar Werth, gan geisio lleihau atgyfeiriadau amhriodol, lleihau amseroedd aros a gwella'r defnydd o glinigau.
Trwy gyfres o gylchoedd Cynllunio-Gwneud-Astudio-Gweithredu (PDSA), gwnaed nifer o newidiadau llwybr, gan gynnwys addasu ffurflenni atgyfeirio i ofyn am ragor o wybodaeth glinigol, addysg staff ychwanegol i sicrhau cysondeb ymhlith staff nyrsio wrth wrthod neu anfon atgyfeiriadau ymlaen, a newidiadau i dempledi clinigau i ganiatáu ar gyfer amseroedd apwyntiad byrrach ar gyfer cleifion optimeiddio, ac apwyntiadau hirach ar gyfer anghenion cymhleth / lliniarol.
Mae’r newidiadau llwybr sydd wedi’u rhoi ar waith wedi arwain at leihad o 6 wythnos mewn amseroedd aros o atgyfeiriad i apwyntiad cyntaf claf allanol (o 8 wythnos i 2 wythnos), gostyngiad o 97% mewn aildderbyniadau 30 diwrnod anorfod a gostyngiad o 64% mewn amser rhwng atgyfeirio ac optimeiddio.
Mae cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn cynnwys datblygiad parhaus o hwb cymunedol er mwyn osgoi'r angen i gleifion risg isel fynd i'r ysbyty i gael eu meddyginiaeth wedi'i hoptimeiddio.
Dale Evans
dale.evans3@wales.nhs.uk