Neidio i'r prif gynnwy

Ffoaduriaid Wcrain

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid statudol ac mae wedi cyhoeddi dau fersiwn o’i chanllawiau diogelu a chaethwasiaeth fodern.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu cyngor ar ddiogelu a chaethwasiaeth fodern i ddau fersiwn o’i chanllawiau i noddwyr. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu gwybodaeth am adrodd am bryderon ynghylch diogelu a chaethwasiaeth fodern i staff ei chanolfan gyswllt Wcráin, staff ei Chanolfan Groeso a staff ei Hybiau Cyrraedd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnwys dolen i hyfforddiant diogelu yn eu dogfennau canllaw cyhoeddedig a’i rhannu â staff ei chanolfan gyswllt Wcráin, staff ei Chanolfan Groeso a staff ei Hybiau Cyrraedd.  

Canllawiau Llywodraeth Cymru i gefnogi gwasanaethau iechyd i baratoi ar gyfer anghenion iechyd tebygol y rhai sy’n cyrraedd ar 29 Mawrth. Mae cyngor ar gyfer Gofal Sylfaenol hefyd wedi'i gynnwys isod.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu gwybodaeth am ddiogelu a chaethwasiaeth fodern i sesiwn friffio i heddluoedd am y cynllun Cartrefi i Wcráin.

Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu gweithdrefn uwchgyfeirio gyda’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau ar gyfer adrodd am bryderon difrifol o ran diogelu a chaethwasiaeth fodern sy’n gofyn am ymyriad Llu’r Ffiniau ac ar gyfer adrodd am blant ar eu pen eu hunain.

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu gwybodaeth i helpu ceiswyr lloches i ddeall eu hawliau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfieithu deunyddiau i Wcreineg a Rwsieg i gefnogi iechyd meddwl y rhai sy'n cyrraedd o'r Wcráin a'u sefydlogi cychwynnol.  Mae crynodeb o’r adnoddau iechyd meddwl a sefydlogi sydd ar gael hefyd wedi’i gyhoeddi ar wefan Straen Trawmatig Cymru.

Mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru yn cynnig cyngor a chefnogaeth i Wcreiniaid sy'n teithio i Gymru.

Mae Comisiynydd Plant Cymru wedi darparu adnoddau i gefnogi ffoaduriaid o’r Wcráin.

Taflenni brechu Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwybodaeth i'r rhai sy'n cyrraedd o'r Wcráin.

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru hefyd yn cynnig gwybodaeth am gefnogi pobl yr Wcráin. 

'Siop un stop' o wefannau, llinellau cymorth a gwybodaeth arall defnyddiol.