Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad Blynyddol Rhwydwaith Diogelu GIG Cymru

Adroddiad Blynyddol Rhwydwaith Diogelu GIG Cymru

 

Mae Adroddiad Blynyddol Rhwydwaith Diogelu GIG Cymru 2022-2023 yn dangos y gwaith gwerthfawr sydd wedi’i wneud ledled Cymru i gadw plant ac oedolion agored i niwed yn ddiogel.   

Mae Rhwydwaith Diogelu GIG Cymru (y Rhwydwaith) yn grŵp strategol GIG Cymru sy’n cynnwys aelodau o fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau GIG Cymru, Llywodraeth Cymru, y Gwasanaeth Diogelu Cenedlaethol a rhanddeiliaid allweddol eraill.  

Mae’r adroddiad yn rhannu’r ffyrdd y mae’r Rhwydwaith wedi defnyddio dull ystwyth sy’n cael ei yrru gan ansawdd i gefnogi Cymru fwy diogel. Mae’r adroddiad yn ymhelaethu ar y targedau heriol a gyflawnwyd yn ystod 2022-23 drwy gydweithio ar draws y Rhwydwaith a gweithredu ffyrdd arloesol o weithio.  

  

Pynciau allweddol 
  • Asesiad Iechyd Plant sy'n Derbyn Gofal

  • Treialu’r Matrics Diogelu Aeddfedrwydd

  • Ymateb Gweithdrefnol i Farwolaethau Annisgwyl Plant

  • Staff Diogelu a Chynllunio Olyniaeth

  • Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

  • Hyfforddiant Diogelu sy’n Ystyriol o Drawma

  • Parodrwydd ar gyfer Newidiadau mewn Deddfwriaeth

  • Ymarfer Rhanbarthol Arloesol ar draws Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau

  • Blaenoriaethau'r Dyfodol 

 

 

Adroddiadau blaenorol

Download   Adroddiad Blynyddol Rhwydwaith Diogelu GIG Cymru 2019-2020

 

Download   Adroddiad Blynyddol Rhwydwaith Diogelu GIG Cymru 2020-21

 

Adroddiad Blynyddol Rhwydwaith Diogelu GIG Cymru 2021-22