Mae Adroddiad Blynyddol Rhwydwaith Diogelu GIG Cymru 2023-2024 yn dangos y gwaith gwerthfawr sydd wedi’i wneud ledled Cymru i gadw plant ac oedolion agored i niwed yn ddiogel. Mae’n ymhelaethu ar y targedau heriol a gyflawnwyd yn y cyfnod diwethaf drwy gydweithio ar draws y Rhwydwaith a chyflwyno ffyrdd arloesol o weithio.
Mae Rhwydwaith Diogelu GIG Cymru (y Rhwydwaith) yn grŵp strategol GIG Cymru sy’n cynnwys aelodau o fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau GIG Cymru, Llywodraeth Cymru, y Gwasanaeth Diogelu Cenedlaethol a rhanddeiliaid allweddol eraill.
Yn y dyfodol, mae'r Rhwydwaith wedi ymrwymo i wella ansawdd a sicrwydd ym maes diogelu, a bydd yn cefnogi Llywodraeth Cymru a Gweithrediaeth y GIG i gryfhau'r angen i fesur effeithiolrwydd gweithgarwch ac arferion diogelu.
• Gwella Gwasanaethau ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal
• Matrics Diogelu Aeddfedrwydd
• Cyfathrebu â Rhanddeiliaid ynghylch Marwolaethau Annisgwyl Plant
• Canllawiau Goruchwylio Diogelu Adferol
• Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
• Hyb Ar-lein Arweinyddiaeth Diogelu
• Offeryn Archwilio ar gyfer y Llwybr Clinigol Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod
• Parodrwydd ar gyfer Newidiadau i'r trefniadau diogelu wrth amddifadu o ryddid Arweinyddiaeth Diogelu
• Ymarfer Rhanbarthol Arloesol ar draws Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau
• Blaenoriaethau'r Dyfodol