Niwroamrywiaeth yn y Gweithle
Gall Mynediad i Waith helpu pobl â chyflwr neu nam corfforol neu iechyd meddwl i ddod o hyd i waith neu barhau yn eu gwaith. Mae’r cymorth a ddarperir yn dibynnu ar angen ac mae’n ystyried y posibilrwydd o wneud cais am grantiau cymorth, er enghraifft ar gyfer cyfarpar arbenigol neu feddalwedd gynorthwyol pan fydd hynny’n berthnasol.
Comisiynodd ACAS adroddiad ymchwil Neurodiversity at Work (2016) sy’n nodi polisïau ac arferion i helpu i integreiddio pobl ag anhwylderau diffyg canolbwyntio, awtistiaeth, dyslecsia neu ddyspracsia mewn cyflogaeth prif ffrwd. Mae’n seiliedig ar dystiolaeth ac wedi’i gynhyrchu gan y Sefydliad Ymchwil Cenedlaethol dros Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (NIESR).
Mae The Brain Charity yn edrych ar gamsyniadau am gyflyrau niwrowahanol, y model anabledd cymdeithasol a buddion niwroamrywiaeth yn y gweithle.
Mae’r CIPD wedi cynhyrchu’r canllaw Neurodiversity at Work ar gyfer gweithwyr proffesiynol Adnoddau Dynol ac arweinwyr/rheolwyr eraill sydd eisiau dysgu mwy am bobl niwrowahanol a’u cefnogi i fod yn fwy cyfforddus a llwyddiannus yn y gwaith. Mae gan y canllaw ddau brif nod: codi ymwybyddiaeth o niwrowahaniaeth yn y gweithle ymhlith cyflogwyr; ac ysbrydoli mwy o gyflogwyr i weithredu.
Recriwtio a Chadw
Mae'r Canllaw i Gyflogwyr ar Gyflogi Pobl Anabl yn cynnig cyngor ymarferol ar sut i ddenu, recriwtio, datblygu a chadw cyflogeion anabl. Mae hefyd yn rhestru cymorth ac adnoddau sydd ar gael i helpu cyflogwyr i greu gweithlu sy’n gynrychioliadol ac sy’n agored i bawb.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflogi rhwydwaith o Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl, wedi’u cefnogi cyflogi gan Gynghorwyr Cyflogaeth Pobl Anabl Busnes Cymru, i ddarparu cyngor, gwybodaeth a chymorth i gyflogwyr ledled Cymru. Mae cyflogi pobl anabl yn ehangu’r gronfa o dalent sydd ar gael yn y gweithle.
Mae tîm ymgyrch Dewch i Drafod Parch Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu ei animeiddiad cyntaf (2021) – ffilm fer o’r enw Let's Raise the Roof (3 munud 30 eiliad) i ddangos #ModelCymdeithasoloAnabledd.
Mae’r Pecyn Offer Siarad yn nodi arfer gorau ar gyfer cefnogi gweithwyr anabl a gweithwyr â chyflyrau iechyd hirdymor i ddod o hyd i waith ac i barhau yn eu gwaith.
Ymgyrchoedd Ymwybyddiaeth 2024
Mae yna nifer o ymgyrchoedd ymwybyddiaeth a dyddiau dynodedig sy’n canolbwyntio’n benodol ar niwroamrywiaeth a phynciau cysylltiedig ar hyd y flwyddyn. Mae’r rhain yn aml yn darparu deunyddiau’r ymgyrch a gellir eu defnyddio i nodi a rhannu gwybodaeth a chodi ymwybyddiaeth yn y gweithle:
Dyddiad |
Ymgyrch |
18-24 Mawrth | Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth |
01-30 Ebrill 02-08 Ebrill |
|
18 Mehefin | |
07-13 Hydref | |
03 Rhagfyr |
Gwybodaeth Gyffredinol
Mae’r Fforwm Anabledd Busnes (BDF) yn sefydliad aelodaeth nid-er-elw sy’n ceisio hyrwyddo cynhwysiant pobl anabl yn y gweithle. Mae’n darparu adnoddau, cymorth ac arweiniad i fusnesau i’w helpu i ddod yn fwy deallus ynglŷn ag anabledd, cynnig cyngor ar bynciau fel hygyrchedd, addasiadau rhesymol, recriwtio cynhwysol a chymorth i gyflogeion.
Sefydlu Rhwydweithiau Staff: Mae Canllaw i Sefydlu Rhwydweithiau Staff y CIPD yn cynnig cyngor ymarferol i sefydliadau a’u cyflogeion i sefydlu, gwella neu redeg rhwydwaith effeithiol. Mae’r canllaw yn cynnwys astudiaethau achos fel enghreifftiau o arfer da.
Anabledd Cymru yw cymdeithas genedlaethol sefydliadau pobl anabl yng Nghymru, sy’n ymdrechu i hyrwyddo hawliau a chyflawni cydraddoldeb i bob person anabl.
Mae Anabledd Dysgu Cymru yn ceisio sicrhau mai Cymru yw’r wlad orau yn y byd i bobl ag anableddau dysgu i fyw, dysgu a gweithio. Mae’n darparu gwybodaeth, hyfforddiant a digwyddiadau.
Mae Scope yn elusen cydraddoldeb anabledd sy’n cwmpasu Cymru a Lloegr. Mae Scope yn darparu cyngor ymarferol a chefnogaeth emosiynol i bobl drwy eu llinell gymorth, eu cymuned ar-lein, rhaglenni ymgysylltu â’r gymuned, partneriaethau a mwy.