Neidio i'r prif gynnwy

Ymyriadau Seicolegol Rhagsefydlu

 Ymyriadau Seicolegol Rhagsefydlu (PDF, 469Kb)
Crynodeb o’r ymyriad:

Archwiliodd un astudiaeth o ansawdd da(3) a dwy astudiaeth o ansawdd cymedrol (1, 2) ymyriadau newid ymddygiad aml-gydrannol ar gyfer lleihau ffactorau risg coronaidd mewn cleifion sy'n aros am Grafftiad i Ddargyfeirio'r Rhydwelïau Coronaidd. 

Roedd y tri ymyriad yn cael eu harwain gan nyrsys(1-3) a'u nod oedd mynd i'r afael â ffactorau risg clefyd coronaidd y galon ac annog a hwyluso newid ymddygiad. Roedd dwy astudiaeth yn cynnwys sesiynau misol gyda nyrs(2, 3), tra bod un yn cynnwys sesiwn gychwynnol a galwad ffôn misol ddilynol(1). Cafodd ymyriadau pellach, cyngor a thriniaeth fel meddyginiaeth a chwnsela eu teilwra ar gyfer cyfranogwyr unigol yn seiliedig ar y ffactorau risg ymddygiadol a nodwyd o'r sesiynau dan arweiniad nyrsys.(1-3) Roedd un astudiaeth yn ceisio chwalu camdybiaethau cyffredin am y galon hefyd, ac roedd hefyd yn cynnwys rhaglen ymlacio.(1)

Cymharwyd ymyriadau â gofal arferol(3), neu addysg a chwnsela nyrsys nad oedd yn benodol i gamdybiaethau'r galon(1). Nid yw un astudiaeth yn nodi'r hyn a gafodd y grŵp rheolydd.(2)

Canlyniadau:

Mae tystiolaeth o ansawdd da neu gymedrol i awgrymu bod ymyriadau newid ymddygiad aml-gydrannol ar gyfer lleihau ffactorau risg coronaidd mewn cleifion sy'n aros am Grafftiad i Ddargyfeirio'r Rhydwelïau Coronaidd yn debygol o fod yn effeithiol ar gyfer y canlyniadau canlynol:

Iselder:

Gallai fod yn effeithiol (dwy astudiaeth(1, 2) o ansawdd cymedrol yn dangos gwelliannau yn y grŵp ymyriad o'i gymharu â'r grŵp rheolydd. Un astudiaeth o ansawdd cryf(3) yn dangos nad oedd unrhyw effaith ar gyfer y grŵp ymyriad o gymharu â’r grŵp rheolydd). 

Costeffeithiolrwydd: 

Gallai fod yn gost-effeithiol (un astudiaeth o ansawdd cryf(3) ac un o ansawdd cymedrol yn dod i'r casgliad y gallai'r ymyriad gael ei ystyried yn gost effeithiol).

?

Mae'r dystiolaeth ar gyfer ymyriadau aml-gydrannol newid ymddygiad ar gyfer lleihau ffactorau risg coronaidd mewn cleifion sy'n aros am Grafftiad i Ddargyfeirio'r Rhydwelïau Coronaidd yn anghyson ar gyfer y canlyniadau canlynol:

BMI (ffactor risg clefyd coronaidd y galon):

Anghyson (un(3) astudiaeth o ansawdd cryf ac un o ansawdd cymedrol(2); effeithiau anghyson ar draws astudiaethau). 

Pwysedd gwaed (ffactor risg clefyd coronaidd y galon):

Anghyson (un(3) astudiaeth o ansawdd cryf ac un o ansawdd cymedrol(2); effeithiau anghyson ar draws astudiaethau).

Ansawdd bywyd sy'n gysylltiedig ag iechyd:

Anghyson (un(3) astudiaeth o ansawdd cryf ac un o ansawdd cymedrol(2); effeithiau anghyson ar draws astudiaethau).

X

Mae tystiolaeth o ansawdd da neu gymedrol i awgrymu bod ymyriadau newid ymddygiad amlgydrannol ar gyfer lleihau ffactorau risg coronaidd mewn cleifion sy'n aros am Grafftiad i Ddargyfeirio'r Rhydwelïau Coronaidd yn debygol o fod yn aneffeithiol ar gyfer y canlyniadau canlynol:

Gorbryder:

Efallai na fydd yn effeithiol (Un astudiaeth o ansawdd cryf(3) ac un o ansawdd cymedrol(1) yn dangos nad oedd unrhyw effaith ar gyfer y grŵp ymyriad o gymharu â’r grŵp rheolydd. Dangosodd un astudiaeth o ansawdd cymedrol(2) welliant yn y grŵp ymyriad o gymharu â'r grŵp rheolydd).

Colesterol (ffactor risg clefyd coronaidd y galon):

Efallai na fydd yn effeithiol (Un astudiaeth o ansawdd cryf (3) ac un o ansawdd cymedrol(2)a'r ddwy’n dangos nad oedd unrhyw welliant yng nghyfanswm lefelau colesterol ar gyfer y grŵp ymyriad o gymharu â'r grŵp rheolydd. Dangosodd un astudiaeth(2) o ansawdd cymedrol welliant mewn crynodiad colesterol plasma cymedrig yn y grŵp ymyriad o gymharu â'r grŵp rheolydd).

?

Mae'r dystiolaeth ar gyfer ymyriadau aml-gydrannol newid ymddygiad ar gyfer lleihau ffactorau risg coronaidd mewn cleifion sy'n aros am Grafftiad i Ddargyfeirio'r Rhydwelïau Coronaidd yn ddiffygiol ar gyfer y canlyniadau canlynol:

Gweithrediad corfforol:

Gallai fod yn effeithiol (Un astudiaeth o ansawdd cymedrol yn dangos gwelliant arwyddocaol ar gyfer y grŵp ymyriad o gymharu â’r grŵp rheolydd).(1)

Camdybiaethau cardiaidd:

Gallai fod yn effeithiol (Un astudiaeth o ansawdd cymedrol yn dangos effaith arwyddocaol ar gyfer y grŵp ymyriad o gymharu â’r grŵp rheolydd).(1)

Digwyddiadau niweidiol:

Nododd un astudiaeth o ansawdd cymedrol nad oedd unrhyw ddigwyddiadau niweidiol difrifol o'r ymyriad.(1)

Rhoi'r gorau i ysmygu (ffactor risg clefyd coronaidd y galon): 

Gallai fod yn effeithiol (Un astudiaeth o ansawdd cymedrol yn dangos effaith arwyddocaol ar gyfer y grŵp ymyriad o gymharu â’r grŵp rheolydd).(2)

Gweithgarwch corfforol (ffactor risg clefyd coronaidd y galon):

Gallai fod yn effeithiol (Un astudiaeth o ansawdd cymedrol yn dangos effaith arwyddocaol ar gyfer y grŵp ymyriad o gymharu â’r grŵp rheolydd).(2)

Boddhad cleifion:

Adroddodd un astudiaeth o ansawdd cymedrol fod cleifion, yn gyffredinol, yn fodlon â'r ymyriad.(2)

Y gallu i gyffredinoli:

Cynhaliwyd y tair astudiaeth yn y DU ac felly efallai y gellir eu cyffredinoli i Gymru.(1-3)

Cymhwysedd: 

Roedd y dystiolaeth ar gyfer y canlyniadau a restrir uchod yn deillio o gleifion a oedd yn aros am lawdriniaeth Grafftiad i Ddargyfeirio'r Rhydwelïau Coronaidd, ac felly efallai na fydd yn berthnasol i gleifion sy'n aros am lawdriniaethau dewisol eraill. 

Os ydych yn parhau â’r ymyriad hon:

Awgrymir bod angen gwaith ymchwil cadarn pellach a gwerthuso effaith yn drylwyr.

Crynodeb o’r ymyriad:

Archwiliodd un astudiaeth(5) o ansawdd cymedrol ymyriad hunanreoli addysgol a seicolegol aml�gydrannol ar gyfer cleifion ar restrau aros am osod clun neu ben-glinnewydd cyflawn a chymharu hyn â grŵp rheolydd arferol.

Roedd yr ymyriad yn cynnwys sesiwn gosod nodau wyneb yn wyneb (cyfweliad 'Partneriaid mewn Iechyd') gyda nyrs ymchwil a llunio cynllun gofal hunanreoli manwl, ynghyd â sgyrsiau ffôn misol dilynol i atgyfnerthu strategaethau hunanreoli (nifer cyfartalog y galwadau a wnaed i bob cyfranogwr oedd 5.2). Roedd cyfranogwyr yn y grŵp ymyriad yn cael mynediad at gydran addysg draddodiadol a galwadau ffôn cefnogaeth gan gymheiriaid hefyd. Gwelwyd cleifion eto ar ôl chwe mis, ni waeth a oeddent wedi cael llawdriniaeth ai peidio.

Canlyniadau: 

?

Mae'r dystiolaeth o effeithiolrwydd ymyriadau hunanreoli addysgol a seicolegol aml-gydrannol i gleifion sy'n aros am osod clun neu ben-glin newydd cyflawn yn ddiffygiol ar gyfer y canlyniadau canlynol:

Stiffrwydd:

Gallai fod yn effeithiol (un astudiaeth o ansawdd cymedrol yn dangos effaith arwyddocaol ar gyfer y grŵp ymyriad o gymharu â’r grŵp rheolydd).(5)

Effaith Addysg Iechyd2: 

Anghyson (un astudiaeth o ansawdd cymedrol, effeithiau anghyson ar draws y gwahanol barthau a fesurwyd).(5)

Poen:

Efallai na fydd yn effeithiol (un astudiaeth o ansawdd cymedrol yn dangos nad oedd unrhyw effaith ar gyfer y grŵp ymyriad o gymharu â’r grŵp rheolydd).(5)

Gweithrediad:

Efallai na fydd yn effeithiol (un astudiaeth o ansawdd cymedrol yn dangos nad oedd unrhyw effaith ar gyfer y grŵp ymyriad o gymharu â’r grŵp rheolydd).(5)

Ansawdd Bywyd sy'n Gysylltiedig ag Iechyd:

Efallai na fydd yn effeithiol (un astudiaeth o ansawdd cymedrol yn dangos nad oedd unrhyw effaith ar gyfer y grŵp ymyriad o gymharu â’r grŵp rheolydd).(5)

Iselder:

Efallai na fydd yn effeithiol (un astudiaeth o ansawdd cymedrol yn dangos nad oedd unrhyw effaith ar gyfer y grŵp ymyriad o gymharu â’r grŵp rheolydd).(5)

Sylwadau'r Gwasanaeth Tystiolaeth: 

Dylid nodi bod rhai cyfranogwyr yn y grwpiau ymyriad a dan reolaeth wedi cael llawdriniaeth yn ystod y cyfnod dilynol, ond eu bod yn dal i gael eu cyfrif yn y dadansoddiadau, felly mae'r canfyddiadau'n ymwneud â chyfranogwyr sy'n dal i aros am lawdriniaeth ac sydd eisoes wedi cael llawdriniaeth.

Y gallu i gyffredinoli:

Cynhaliwyd yr ymyriad yn Awstralia(5), felly dylid ystyried ymhellach a ellid ei gyffredinoli i Gymru. 

Cymhwysedd: 

Roedd y dystiolaeth ar gyfer y canlyniadau a restrir uchod yn deillio o gleifion a oedd yn aros am lawdriniaeth gosod clun neu ben-glin newydd cyflawn, ac felly efallai na fydd yn berthnasol i gleifion sy'n aros am lawdriniaethau dewisol eraill. 

Os ydych yn parhau â’r ymyriad hon:

Awgrymir bod angen gwaith ymchwil cadarn pellach a gwerthuso effaith yn drylwyr.

Crynodeb o’r ymyriad:

Archwiliodd un astudiaeth(4) o ansawdd cymedrol effaith rhaglen rheoli poen aml-gydrannol i gleifion sy'n aros am lawdriniaeth clun newydd cyflawn a chymharu hyn â grŵp rheolydd nad oedd yn derbyn unrhyw ymyriad. 

Cafodd y rhaglen rheoli poen a dderbyniwyd gan y grŵp ymyriad ei chyflwyno mewn sesiynau grŵp 1-2 fore'r wythnos dros 6 wythnos. Nod y rhaglen oedd addysgu cleifion i sicrhau newid ymddygiad a mynd i'r afael ag ofnau. Roedd yn cynnwys technegau seicolegol, ymarferol a chorfforol ar gyfer lleihau poen, anabledd a'i effaith ar hwyliau, rôl gymdeithasol a defnyddio gofal iechyd. Roedd ymlacio a ddysgwyd wedi'i gynnwys hefyd.

Roedd pob cyfranogwr gwaeth beth fo'r dyraniad grŵp yn derbyn gwybodaeth a chyngor ysgrifenedig hefyd, a chyfarwyddiadau ymarfer corff cyn cael eu hapddewis ar gyfer yr astudiaeth. Yn y grŵp ymyriad, pwysleisiwyd yr ymarfer hwn yn gryf fel rhan o'r rhaglen rheoli poen, ond ni phwysleisiwyd yr ymarfer ymhellach ar gyfer y grŵp rheolydd.

Canlyniadau:

?

Mae'r dystiolaeth o effeithiolrwydd rhaglenni rheoli poen aml-gydrannol i gleifion ar restrau aros am glun newydd cyflawn yn ddiffygiol ar gyfer y canlyniadau canlynol:

Poen:

Gallai fod yn effeithiol (un o ansawdd cymedrol yn dangos gwelliant arwyddocaol yn y grŵp ymyriad o gymharu â'r grŵp rheolydd).(4)

Statws Iechyd:

Efallai na fydd yn effeithiol (un astudiaeth o ansawdd cymedrol yn dangos nad oedd unrhyw effaith ar gyfer y grŵp ymyriad o gymharu â’r grŵp rheolydd).(4)

Gweithrediad:

Efallai na fydd yn effeithiol (un astudiaeth o ansawdd cymedrol yn dangos nad oedd unrhyw effaith ar gyfer y grŵp ymyriad o gymharu â’r grŵp rheolydd).(4)

Defnydd o gyffuriau poenleddfol:

Efallai na fydd yn effeithiol (un astudiaeth o ansawdd cymedrol yn dangos nad oedd unrhyw effaith ar gyfer y grŵp ymyriad o gymharu â’r grŵp rheolydd).(4)

Oedi/canslo llawdriniaeth:

Efallai na fydd yn effeithiol (un astudiaeth o ansawdd cymedrol yn dangos dim gwahaniaethau rhwng y grŵp ymyriad a'r grŵp rheolydd mewn penderfyniadau i gael llawdriniaeth i osod clun newydd cyflawn).(4)

Y gallu i gyffredinoli:

Cynhaliwyd yr astudiaeth yn y DU,(4), ac felly efallai y gellir ei chyffredinoli i Gymru. 

Cymhwysedd: 

Roedd y dystiolaeth ar gyfer y canlyniadau a restrir uchod yn deillio o gleifion a oedd yn aros am lawdriniaeth i osod clun newydd cyflawn, ac felly efallai na fydd yn berthnasol i gleifion sy'n aros am lawdriniaethau dewisol eraill. 

Os ydych yn parhau â’r ymyriad hon:

Awgrymir bod angen gwaith ymchwil cadarn pellach a gwerthuso effaith yn drylwyr.

  1. Furze G, Dumville JC, Miles JN, Irvine K, Thompson DR, Lewin RJ. "Prehabilitation" prior to CABG surgery improves physical functioning and depression. Int J Cardiol. 2009;132(1):51-8.
  2. McHugh F, Lindsay GM, Hanlon P, Hutton I, Brown MR, Morrison C, et al. Nurse led shared care for patients on the waiting list for coronary artery bypass surgery: a randomised controlled trial. Heart. 2001;86(3):317-23.
  3. Goodman H, Parsons A, Davison J, Preedy M, Peters E, Shuldham C, et al. A randomised controlled trial to evaluate a nurse-led programme of support and lifestyle management for patients awaiting cardiac surgery 'Fit for surgery: Fit for life' study. Eur J Cardiovasc Nurs. 2008;7(3):189-95.
  4. Berge DJ, Dolin SJ, Williams AC, Harman R. Pre-operative and post-operative effect of a pain management programme prior to total hip replacement: a randomized controlled trial. Pain. 2004;110(1-2):33-9.
  5. Crotty M, Prendergast J, Battersby MW, Rowett D, Graves SE, Leach G, et al. Self-management and peer support among people with arthritis on a hospital joint replacement waiting list: a randomised controlled trial. Osteoarthritis Cartilage. 2009;17(11):1428-33.