Neidio i'r prif gynnwy

Dulliau

Defnyddiodd y crynodeb hwn o dystiolaeth pwnc chwiliad blaenorol o adolygiad cyflym diweddar:

Okolie C, et al. 2022. A rapid review of the effectiveness of innovations to support patients on elective surgical waiting lists. Medrxiv DOI: 10.1101/2022.06.10.22276151 medrxiv.org

Cynhaliodd yr adolygiad cyflym chwiliadau helaeth ym mis Chwefror 2022. Cyfyngwyd chwiliadau i gyhoeddiadau Saesneg a gyhoeddwyd ar ôl 2011. Mae rhestr lawn o'r adnoddau y chwiliwyd iddynt i'w gweld yn adran 5.3 yr adolygiad.

Yn ogystal â chanlyniadau chwilio'r adolygiad cyflym, cynhaliwyd chwiliad atodol ym mis Mawrth 2023, gan ddefnyddio Medline, Google Scholar a rhestr o ffynonellau eilaidd cadarn.

Cafodd canlyniadau chwilio eu casglu a'u sgrinio am eu cymhwystra yn erbyn meini prawf cynhwysiant y crynodeb o dystiolaeth pwnc (protocol ar gael ar gais). Pan nodwyd ffynonellau eilaidd perthnasol, cafodd yr astudiaethau sylfaenol a oedd ynddynt hefyd eu sgrinio o safbwynt cynhwysiant. Nodwyd cyfanswm o 57 o astudiaethau sylfaenol a oedd yn bodloni'r meini prawf cynhwysiant, 12 astudiaeth o'r DU a dim un o Gymru. 

Casglwyd data o'r astudiaethau a oedd yn bodloni'r meini prawf cynhwysiant ar gyfer y crynodeb hwn i daenlen. Arfarnwyd ansawdd yr astudiaethau gan ddefnyddio adnodd asesu ansawdd Prosiect Ymarfer Iechyd Cyhoeddus Effeithiol (EPHPP). Cafodd astudiaethau eu categoreiddio yn ymyriadau tebyg a mathau o lawfeddygaeth a'u graddio gan ddefnyddio'r allwedd graddio tystiolaeth, i asesu effeithiolrwydd ymyriadau, gan ystyried ansawdd cyffredinol astudiaethau a chyfeiriad effaith pob canlyniad a aseswyd. Cynhaliwyd pob cam o’r crynodeb o dystiolaeth pwnc gan adolygwyr lluosog a gwiriwyd cysondeb i leihau tuedd.

NODER: Chwiliwyd drwy nifer cyfyngedig o ffynonellau am y crynodeb o’r dystiolaeth hwn. Felly, efallai na fydd y dystiolaeth a gynhwysir yn cwmpasu cyfanswm y sylfaen dystiolaeth ac efallai y bydd ymyriadau newydd ac arloesol wedi’u colli.