Neidio i'r prif gynnwy

Canlyniadau iechyd corfforol

Ymyriadau a ddarparwyd i gleifion orthopedig:

Roedd tri o blith pedwar ymyriad aciwbigo cyn llawdriniaeth (Haslam 2001; Tillu et al. 2002; Williamson et al. 2007) yn dangos gwelliannau sylweddol mewn mesurau o weithrediad corfforol mewn cleifion ar restrau aros am lawdriniaeth orthopedig. Roedd mesurau ar gyfer gweithrediad corfforol yn cynnwys amrywiaeth o offerynnau hunangofnodedig sy'n benodol i gyflwr a phrofion corfforol. Roedd un o'r astudiaethau (Williamson et al. 2007; ansawdd gwan), yn dangos gwelliant yn sythar ôl yr ymyriad yn yr Oxford Knee Scores (OKS), ond ni chynhaliwyd y gwelliant hwn ar ôl chwe wythnos, na thri mis ar ôl llawdriniaeth. Nid oedd y ddwy astudiaeth arall a ddangosodd welliant sylweddol cyn llawdriniaeth (Haslam 2001; Tillu et al. 2002) wedi mesur yr effaith ar unrhyw adeg ar ôl llawdriniaeth. Roedd y bedwaredd astudiaeth (Soni et al. 2012; ansawdd cymedrol) yn dangos nad oedd cyfuno aciwbigo a ffisiotherapi grŵp cyn llawdriniaeth yn cael unrhyw effaith sylweddol ar weithrediad pen-glin a gallu i gerdded. 

Roedd y pedwar ymyriad aciwbigo cyn llawdriniaeth yn darparu tystiolaeth gymysg o effeithiolrwydd lleihau poen hefyd. Canfu un ostyngiadau sylweddol mewn poen cyn llawdriniaeth ar gyfer cleifion oedd yn cael chwe wythnos o aciwbigo (Tillu et al. 2002; ansawdd gwan). Fodd bynnag, nid oedd ymyriad tebyg (Williamson et al. 2007; ansawdd gwan), ac ymyriad hirach a oedd yn cynnwys ffisiotherapi hefyd (Soni et al. 62012; ansawdd cymedrol), yn dangos yr un effaith. Roedd yr astudiaeth derfynol (Haslam 2001; ansawdd cymedrol) yn dangos bod cleifion sy'n derbyn aciwbigo wedi dweud bod llai o symptomau poen lleol cyn llawdriniaeth ac wedi defnyddio llai o boenleddfwyr, ac er bod tuedd debyg yn y grŵp rheolydd ni chofnodwyd arwyddocâd ystadegol.

Nid wnaeth un ymyriad cyn llawdriniaeth a oedd wedi targedu newid ymddygiad drwy addysg a thechnegau seicolegol (Berge et al. 2004; ansawdd cymedrol) ganfod unrhyw welliannau sylweddol mewn anabledd corfforol a thrallod poen cyn llawdriniaeth.

Fe wnaeth ymyriad newid ymddygiad a dargedodd addysg a thechnegau seicolegolleihau dwyster poen, trallod poen ac aflonyddwch cwsg yn sylweddol mewn cleifion ag osteoarthritis a oedd ar restr aros ar gyfer THR (Berge et al. 2004; cymedrol). Roedd y gwelliannau hyn wedi'u cynnal 12 wythnos ar ôl i'r ymyriad ddod i ben. Nid oedd unrhyw wahaniaeth yn y defnydd o gyffuriau analgesig rhwng y grwpiau.

Fe wnaeth ymyriad cyflyriad-ymarfer corff niwrogyhyrol rhagsefydlu acíwt (APNEC) (Risso et al. 2022; ansawdd gwan) gynyddu capasiti actifadu a chryfder cyhyr estynnol y ben-glin yn sylweddol. Fe wnaeth yr effeithiau barhau hyd at ddiwrnod y llawdriniaeth, wythnos ar ôl diwedd yr ymyriad.

Ni chafodd rhaglen ymarfer corff grŵp dan oruchwyliaeth effaith sylweddol ar sgorau OKS, statws iechyd na gallu i gerdded (Williamson et al. 2007; gwan).

No matching content found.