Lluniwyd gan:
Golibe Ezenwugo, Amy Hookway, Kate Shiells ac Alesha Wale; Gwasanaeth Tystiolaeth, Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Dyddiad Cyhoeddi: 26/07/2024
Mae disgwyl i newid yn yr hinsawdd gynyddu amlder llifogydd yn y Deyrnas Unedig, gyda Chymru yn arbennig o agored i niwed. Mae llifogydd yn peri heriau tymor byr a hirdymor sylweddol i iechyd corfforol a seicolegol pobl.
Er mwyn llywio agenda ymchwil newid yn yr hinsawdd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn y dyfodol, cynhaliwyd dau adolygiad cwmpasu i archwilio:
Edrychwyd ar bedwar ar hugain o gronfeydd data a gwefannau, gan gynnwys Medline, Scopus, a Google Scholar, am ymchwil cyhoeddedig a llenyddiaeth lwyd. Cafodd y canlyniadau eu sgrinio yn erbyn meini prawf cynhwysiant a ddiffiniwyd ymlaen llaw. Cafodd astudiaethau dethol eu gwerthuso'n feirniadol a'u crynhoi ar ffurf naratif.
Yn yr adolygiad cyntaf, nodwyd saith astudiaeth oedd yn archwilio effeithiolrwydd systemau rhybuddion cynnar rhag llifogydd ar ganlyniadau iechyd megis marwolaeth, anaf corfforol, ac anhwylder straen ôl-drawmatig. Roedd y canlyniadau’n gymysg ynghylch a oedd cael rhybudd wedi cael effaith lliniarol ar iechyd pobl a brofodd lifogydd. Fodd bynnag, awgrymodd peth o’r ymchwil, ymhlith y rhai a gafodd rhybudd llifogydd, y mwyaf o rybudd a gafwyd y lleiaf oedd yr effeithiau negyddol ar iechyd. Roedd gan y rhan fwyaf o astudiaethau ddiffygion methodolegol, gan leihau hyder yn y canfyddiadau.
Yn yr ail adolygiad, nodwyd tri adolygiad llenyddiaeth ac un canllaw yn archwilio ymyriadau iechyd meddwl ar ôl llifogydd. Fodd bynnag, roedd ansawdd y rhain yn gyfyngedig. Awgrymodd yr adolygiadau y gellir diwallu’r rhan fwyaf o anghenion seicolegol ar ôl llifogydd drwy deulu a ffrindiau. Fodd bynnag, gallai fod angen cymorth mwy arbenigol ar rai unigolion, ac mae canllawiau Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) yn argymell dull pedair haen ar gyfer lleihau effaith llifogydd ar iechyd meddwl. Ni ddarganfuwyd unrhyw adolygiadau a oedd yn archwilio ymyriadau ar gyfer pobl mewn ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd.
Mae’r ddau adolygiad yn amlygu bylchau sylweddol yn y sylfaen dystiolaeth, gyda diffyg tystiolaeth eilaidd o ansawdd uchel ar effeithiolrwydd ymyriadau iechyd meddwl mewn ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd neu ar ôl llifogydd. Yn ogystal, nid oes digon o ymchwil i effeithiolrwydd systemau rhybuddion cynnar rhag llifogydd ar ganlyniadau iechyd.
© 2024 Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
Caniateir atgynhyrchu’r deunydd sydd yn y ddogfen hon o dan delerau’r Drwydded Llywodraeth Agored (OGL)
www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-governmentlicence/version/3/ ar yr amod bod hynny’n cael ei wneud yn gywir ac na chaiff ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol
Dylid cydnabod Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru.
ISBN: 978-1-83766-426-9