Neidio i'r prif gynnwy

Hunan-brofi ar gyfer HIV: Penderfynyddion ymddygiadol sy'n dylanwadu ar y nifer sy'n cael eu derbyn, ac ymyriadau i gynyddu'r nifer sy'n cael eu cymryd.

Crynodeb o ddau adolygiad cwmpasu.

 

Lluniwyd gan: Kate Shiells, Alesha Wale, Amy Hookway a Hannah Shaw; Gwasanaeth Tystiolaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru 

 

Dyddiad cyhoeddi: 19 Tachwedd 2024

Crynodeb

Cefndir: Mae Feirws Imiwnoddiffygiant Dynol (HIV) yn parhau i fod yn broblem iechyd fyd-eang. Yng Nghymru, mae gwella mynediad at brosesau atal a phrofi wedi cyfrannu at ostyngiad o 75% mewn diagnosisau newydd rhwng 2015 a 2021, a nod Llywodraeth Cymru yw cael dim achosion newydd o HIV erbyn 2030. Mae pecynnau hunan-brofi am HIV, sydd wedi bod ar gael ar y farchnad ledled y DU ers 2015, yn caniatáu i unigolion brofi am HIV yn breifat yn eu cartref eu hunain, a gall helpu i leihau nifer yr heintiau newydd. O ystyried bod hunan-brofi’n ddull cymharol newydd o brofi am HIV, mae'n bwysig deall pa fathau o ymddygiad a allai effeithio ar y nifer sy'n hunan-brofi, ac effeithiolrwydd ymyriadau i hyrwyddo hunan-brofi. 

Nodau: Roedd nodau'r adolygiad hwn yn ddeublyg. Yn gyntaf, archwilio pa benderfynyddion ymddygiadol sy'n dylanwadu ar y nifer sy'n hunan-brofi am HIV. Yn ail, asesu effeithiolrwydd ymyriadau i gynyddu'r nifer sy'n hunan-brofi am HIV.  

Dulliau: Cynhaliwyd dau adolygiad cwmpasu o'r llenyddiaeth eilaidd. Cynhaliwyd chwiliadau ar draws sawl cronfa ddata gan gynnwys Medline, PsycInfo, Scopus, Epistemonikos a Google Scholar ym mis Mai 2024. Dim ond ffynonellau eilaidd a oedd yn canolbwyntio ar oedolion, a gyhoeddwyd ers 2014 ac a ysgrifennwyd yn Saesneg gafodd eu cynnwys yn yr adolygiadau. Cafodd pob adolygiad a gynhwyswyd ei arfarnu am ansawdd gan ddau adolygydd. Cafodd penderfynyddion ymddygiadol eu cyfosod gan ddefnyddio'r Fframwaith Parthau Damcaniaethol a chafodd y canfyddiadau eu crynhoi o dan gydrannau cysylltiedig model COM-B. Cafodd effeithiolrwydd ymyriadau i gynyddu'r nifer sy'n hunan-brofi eu cyfosod ar ffurf naratif. 

Canlyniadau: Cafodd 14 adolygiad systematig eu cynnwys yn yr adolygiad cwmpasu cyntaf a archwiliodd benderfynyddion ymddygiadol ar gyfer hunan-brofi am HIV. Canfuwyd bod y penderfyniad i hunan-brofi yn cael ei ddylanwadu gan wahanol barthau ymddygiadol sy'n gysylltiedig â gallu, cyfle a chymhelliant. Ystyriwyd yn eang bod hunan-brofi’n gyfleus, yn rhwydd, yn rymusol, yn breifat ac yn ffordd o leihau stigma. Fodd bynnag, roedd rhwystrau'n cynnwys diffyg ymwybyddiaeth am hunan-brofi, anawsterau wrth gynnal y prawf, pryderon ynghylch cywirdeb ac ofnau am dderbyn prawf positif heb gefnogaeth ôl-brawf. Mynegwyd pryderon hefyd ynghylch preifatrwydd a stigma. 

Cafodd chwe adolygiad systematig eu cynnwys yn yr ail adolygiad cwmpasu a archwiliodd effaith ymyriadau i gynyddu'r nifer sy'n hunan-brofi am HIV. Roedd rhoi dewis o ddulliau profi i bobl, neu wybodaeth am hunan-brofi a sut i ddefnyddio pecynnau hunan-brofi, yn cynyddu'r nifer sy'n hunan-brofi. Roedd gwahanol strategaethau dosbarthu yn cynyddu'r niferoedd hefyd, gan gynnwys dosbarthu gan bartneriaid neu gyfoedion, strategaethau rhwydwaith cymdeithasol a darparu pecynnau hunan-brofi mewn adrannau achosion brys. Canfuwyd bod ymyriadau digidol, gan gynnwys gwefannau neu apiau, ymyriadau cyfryngau cymdeithasol, ymyriadau negeseuon testun a pheiriannau gwerthu digidol yn cynyddu'r nifer sy'n hunan-brofi. Yn olaf, gwelwyd bod cost pecynnau hunan-brofi yn effeithio ar y nifer sy'n hunan-brofi. 

Casgliadau: Mae'n ymddangos bod gallu, cyfle a chymhelliant i gyd yn gweithredu fel penderfynyddion ymddygiadol sy'n dylanwadu ar y penderfyniad i hunan-brofi am HIV, ac mae'r dystiolaeth yn awgrymu y gellir defnyddio ymyriadau amrywiol i fynd i'r afael â rhai o'r penderfynyddion ymddygiadol hyn a chynyddu nifer y bobl sy'n hunan-brofi. Gallai ymyriadau i gynyddu ymwybyddiaeth a gwybodaeth am sut i hunan-brofi fynd i'r afael â'r diffyg ymwybyddiaeth neu'r diffyg hyder i hunan-brofi y gwelwyd ei fod yn lleihau'r nifer sy'n hunan-brofi. Gallai ymyriadau sy'n ymgorffori cwnsela a chysylltiadau â gofal fynd i'r afael â phryderon pobl ynghylch methu â chael gafael ar gymorth pe baent yn cael canlyniad positif.   

Lawrlwythwch yr adolygiadau cwmpasu llawn:

 

 

© 2024 Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru Caniateir atgynhyrchu’r deunydd sydd yn y ddogfen hon o dan delerau’r Drwydded Llywodraeth Agored (OGL)  

www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-governmentlicence/version/3/ ar yr amod bod hynny’n cael ei wneud yn gywir ac na chaiff ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol. Dylid cydnabod  

Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

ISBN: 978-1-83766-496-2