Neidio i'r prif gynnwy

Dangosfwrdd Iechyd a Lles Plant Ysgolion Uwchradd: Data Arolwg Rhwydwaith Ymchwil mewn Ysgolion (SHRN)



Dyddiad cyhoeddi: 27 Tachwedd 2025

 

 >>> Dolen i'r Dangosfwrdd <<<

 

        Lawrlwytho data cyflawn (2017-2023)
        Cyfraddau ymateb (2017-2023)
        Canllaw defnyddiwr dangosfwrdd
        Map Argaeledd Dangosyddion

Crynodeb: 
 

  • Mae canlyniadau merched yn waeth na bechgyn mewn llawer o bynciau

  • Mae cyfoeth teuluol isel yn aml yn gysylltiedig â chanlyniadau gwaeth

  • Yn aml, gwelir canlyniadau gwael wrth i’r oedran fynd yn uwch, o 11 i 16 oed

  • Mae tueddiadau ar gyfer llawer o’r pynciau yn dangos ychydig iawn o welliant, os o gwbl, dros amser

Negeseuon Allweddol Pellach

 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi dangosfwrdd rhyngweithiol sy’n cyflwyno canlyniadau arolwg wedi’u diweddaru ar iechyd a lles plant oed ysgol uwchradd yng Nghymru. 


Mae hwn yn ddarn o waith cydweithredol rhwng y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Bydd y diweddariad hwn yn rhoi dealltwriaeth bellach o iechyd a lles plant ysgolion uwchradd ledled Cymru. Bydd hyn yn helpu defnyddwyr i ddeall y sefyllfa bresennol a gwneud penderfyniadau gwybodus sy'n effeithio'n gadarnhaol ar bobl ifanc. Mae’r dangosfwrdd yn cynnwys 73 o bynciau gwahanol ar gyfer pedair blynedd yr arolwg (2017, 2019, 2021 a 2023). Mae’n cynnwys gwybodaeth ynglŷn â rhywedd, oedran, grŵp blwyddyn, cyfoeth teuluol, ethnigrwydd, grŵp blwyddyn yn ôl awdurdod lleol a lefelau daearyddol gwahanol.


Daw'r dangosfwrdd gyda lawrlwythiad data llawn sy'n cynnwys nifer y myfyrwyr a ymatebodd i'r cwestiwn a chyfanswm y myfyrwyr a holwyd. Mae hefyd yn cynnwys lawrlwythiad ar gyfer cyfraddau gwahardd ac ymateb. Mae’r siartiau a grëwyd o fewn y dangosfwrdd i gyd ar gael i’w lawrlwytho ynghyd â thablau data sy’n cyd-fynd â nhw. Bydd y rhain yn disodli’r Adroddiad Cenedlaethol o 2023 ymlaen a gyhoeddwyd yn flaenorol gan DECIPHer.  Mae'r dangosfwrdd wrthi’n cael ei ddatblygu a bydd yn cynnwys dangosyddion a dadansoddiadau ychwanegol yn y dyfodol. Gweler y ddogfen diweddariadau arfaethedig am ragor o wybodaeth.  Gweler yr adran amserlenni cyhoeddi arfaethedig isod am ragor o wybodaeth.


I gael rhagor o wybodaeth am yr arolwg ewch i wefan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN).  I gael rhagor o wybodaeth am sut i ddefnyddio'r dangosfwrdd, gweler y canllaw defnyddiwr.

Yn dilyn adborth gan ddefnyddwyr, rydym wedi cyflwyno lawrlwythiadau Awdurdodau Lleol unigol i'w gwneud hi'n haws archwilio data ar gyfer eich ardal benodol. Cliciwch y ddolen isod i weld y data ar gyfer eich Awdurdod Lleol.

Dolen i lawrlwythiadau data Awdurdodau Lleol

 

Cysylltu data â chamau gweithredu


Mae Dangosfwrdd Iechyd a Lles Plant Ysgolion Uwchradd yn cyflwyno data i helpu i nodi materion allweddol a meysydd ffocws ar gyfer iechyd a lles disgyblion. Er bod y dangosfwrdd yn tynnu sylw at y problemau, gall yr isod helpu gyda’r hyn sydd angen ei wneud nesaf. Drwy gysylltu'r dangosfwrdd â'r adnoddau hyn, gall defnyddwyr symud o ddeall y data i ddod o hyd i dystiolaeth ddibynadwy sy'n llywio gwelliant yn y byd go iawn.

Cefnogi Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles mewn Ysgolion

Gwybodaeth a Chanllawiau ar Fêpio i Ddysgwyr Oedran Uwchradd yng Nghymru

Mapiau Tystiolaeth - Mae'r mapiau hyn yn rhoi mynediad strwythuredig at dystiolaeth gyfoes o ansawdd uchel ar amrywiaeth eang o bynciau iechyd a lles. Wedi'u datblygu gan dîm y Gwasanaeth Tystiolaeth yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, maent yn dwyn ynghyd canllawiau dibynadwy ac adolygiadau systematig i gefnogi defnyddwyr i nodi camau gweithredu effeithiol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth.

 

Gweithio gyda Rhwydwaith Ysgolion Cymru sy’n Hybu Iechyd a Lles


Gall ysgolion sydd am fabwysiadu dull ysgol gyfan o wella iechyd a lles hefyd gysylltu â chynlluniau sy’n rhan o Rwydwaith Ysgolion Cymru sy'n Hybu Iechyd a Lles (WNHWSS). Mae'r Rhwydwaith yn cefnogi ysgolion ledled Cymru i ymgorffori iechyd a lles yn eu polisïau, eu cwricwlwm a'u diwylliant. Mae’n cynnig arweiniad, cymorth ymarferol, a chyfleoedd i rannu arferion da. I gael gwybod rhagor neu i gysylltu â'ch cydlynydd lleol, ewch i'w gwefan neu cysylltwch yma Healthy.Schools@wales.nhs.uk.

 

Adborth

Rydym bob amser eisiau gwella’r cynnyrch yr ydym yn eu creu er mwyn sicrhau eu bod yn hawdd i’w defnyddio. Os oes gennych unrhyw sylwadau neu adborth, cysylltwch â ni e-bost.

 

Mae'r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN) yn bartneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd, Llywodraeth Cymru, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Barn yr awdur(on) a fynegir yma ac nid o reidrwydd barn y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN) na Phrifysgol Caerdydd.

 
Dyddiad cyhoeddi drafft: 2026 tbc
  • Diweddariad o Ddata Arolwg 2025
    
     
     
Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i Ddangosfwrdd Data'r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN). Mae'n cael ei gynnal gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu:

  • chwyddo mewn hyd at 200% heb i'r testun ddiflannu oddi ar y sgrin
  • gwe-lywio'r rhan fwyaf o'r wefan drwy ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • gwe-lywio'r rhan fwyaf o'r wefan drwy ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan drwy ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver).

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.  Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.
Mae hygyrchedd ar y wefan hon yn cael ei arwain gan safonau llywodraeth a Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys ar y We (WCAG). Mae WCAG yn cael ei derbyn yn eang fel y safon ryngwladol ar gyfer hygyrchedd ar y we.

Er ein bod yn ceisio gwneud y wefan hon yn hygyrch i bob defnyddiwr a chyrraedd lefel gydymffurfio 'AA' gyda WCAG; rydym yn gweithio'n barhaus gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod cydymffurfio â lefel 'A' yn cael ei dilyn fel isafswm.

Canfu ein hasesiad fod y wefan ar hyn o bryd yn bodloni 73% o feini prawf llwyddiant WCAG 2.2 AA. Fodd bynnag, nid yw 27% o'r meini prawf yn cael eu bodloni. Mae hyn yn golygu y gall rhai defnyddwyr brofi rhwystrau wrth gyrchu cynnwys a swyddogaethau penodol.

Mae nodwedd cyfieithu a thestun-i-lais Recite Me ar y wefan hon yn awtomataidd. Gall fod gwallau ac anghysondebau yn y cyfieithiadau. Y testun swyddogol yw fersiwn Cymraeg/Saesneg y wefan. Os byddwch yn cael unrhyw broblem hygyrchedd ar y safle hwn neu os oes gennych unrhyw sylw, cysylltwch â ni..

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon
Fersiwn 5, cyhoeddwyd 27/11/2025
Rydym yn gwybod bod rhai rhannau o'r wefan hon nad ydynt yn gwbl hygyrch:

  • Efallai na fydd rhannau o rai tudalennau yn gweithio'n dda gyda Thechnolegau Cynorthwyol fel darllenwyr sgrin
  • Mae rhai dewislenni nad ydynt yn gwbl hygyrch
  • Mae rhai botymau a dolenni nad oes ganddynt ddisgrifiadau hygyrch
  • Mae rhai tudalennau na ellir eu defnyddio'n llawn gyda'r bysellfwrdd
  • Mae eitemau dewislen eilaidd yn newid trefn pan ddewisir eitem
  • Mae lawrlwytho data llawn yn hygyrch ond nid yw lawrlwythiadau data penodol yn

Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os oes angen gwybodaeth am y wefan hon arnoch mewn fformat gwahanol fel dogfen hygyrch, print bras, hawdd ei deall, recordiad sain neu Braille, cysylltwch â ni i ddechrau a byddwn yn trosglwyddo eich cais i'r tîm perthnasol.  Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi mewn 10 diwrnod gwaith.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon
Rydym bob amser yn awyddus i wella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd cysylltwch â ni.

Gweithdrefn gorfodi
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn fodlon ar sut y byddwn yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymrwymedig i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfiaeth
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys ar y We fersiwn 2.2, yn sgil yr achosion o ddiffyg cydymffurfio ac eithriadau a restrir isod.  

Cynnwys nad yw'n hygyrch
Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd
Fersiwn 5, cyhoeddwyd 27/11/2025


Er ein bod yn ceisio bodloni ‘WCAG 2.2 AA’ ar hyn o bryd mae gennym y materion canlynol o ran diffyg cydymffurfio:
1.3 Addasadwy

1.3.5 Nodi Diben Mewnbwn

1.4 Gwahaniaethol

1.4.1 Defnydd o Liw

1.4.5 Delweddau o destun

1.4.13 Cynnwys ar Hover neu Focus

2.1 Mynediad trwy Fysellfwrdd

2.1.1 Bysellfwrdd

2.4 Llywiadwy

2.4.3 Trefn Ffocws

2.4.4 Diben Dolen

2.3.13 Ymddangosiad Ffocws

3.1 Darllenadwy

          3.1.1 Iaith y dudalen

4.1 Cydnaws

4.1.1 Parsing (wedi darfod a dileu)

4.1.2 Enw, Rôl a Gwerth

4.1.3 Negeseuon Statws

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ym mis Tachwedd 2025. Caiff ei adolygu ym mis Tachwedd 2026. Profwyd y wefan hon ddiwethaf ym mis Tachwedd 2025 gennym ni gan ddefnyddio Mewnwelediadau Hygyrchedd FastPass ar gyfer ehangu’r We.