Neidio i'r prif gynnwy

Mae marwolaeth cyn pryd yn rhoi cyfrif am ddwywaith gymaint o flynyddoedd o fywyd a gollir yn y rhan fwyaf o ardaloedd difreintiedig yn 2016-2018

Cyhoeddwyd: Mai 25 2022

Cliciwch yma i weld y Blynyddoedd o Fywyd a Gollwyd.

Mae dros 11,000 o farwolaethau cyn pryd bob blwyddyn yng Nghymru rhwng 2016-2018. Mae hyn yn gyfwerth â bron 150,000 o flynyddoedd o fywyd a gollir yn flynyddol oherwydd marwolaeth cyn pryd, y mae 54,000 ohonynt yn flynyddoedd gormodol o fywyd a gollir. Mae nifer y blynyddoedd o fywyd a gollir yn y pumed o ardaloedd mwyaf difreintiedig dros ddwywaith hynny yn y pumed o ardaloedd lleiaf difreintiedig.

Mae’r blynyddoedd o fywyd a gollir (YLL) yn cyfrifo nifer y blynyddoedd a gollir pan fydd person yn marw cyn pryd (o dan 75 oed) o unrhyw achos. Gyda YLL, mae nifer y marwolaethau ac oed y person pan fydd yn marw yn cael eu hystyried ac felly’n rhoi mwy o bwysau ar farwolaeth yn 5 oed o’i gymharu â marwolaeth yn 70 oed. O ganlyniad, mae YLL yn fesur o farwolaeth sydd yn ystyried marwolaethau cyn pryd sydd yn gallu llywio blaenoriaethau iechyd y cyhoedd er mwyn helpu i dargedu ymyriadau i atal marwolaethau o’r fath1.

Cliciwch yma i weld y Blynyddoedd o Fywyd a Gollwyd.

Mae’r siartiau uchod yn dangos graddfa lawn marwolaeth cyn pryd a YLL ym mhob pumed amddifadedd. Maent wedi eu rhannu yn ôl lliw i ddangos y gyfran y byddem yn disgwyl ei gweld ym mhob pumed pe byddai’r cyfraddau marwolaeth yr un peth ag yn y pumed lleiaf difreintiedig a’r swm sydd yn mynd y tu hwnt i hynny. Gyda phob cynnydd yn lefel yr amddifadedd, mae’r marwolaethau cyn pryd a’r YLL hefyd yn cynyddu. Yn ogystal, pan fydd cyfraddau marwolaeth y lleiaf difreintiedig yn cael eu cymhwyso ar draws pob pumed amddifadedd, mae’r gormodol hefyd yn cynyddu yn unol ag amddifadedd.  Felly, mae marwolaeth cyn pryd a YLL tua dwbl ffigur y pumed lleiaf difreintiedig yn y pumed mwyaf difreintiedig.

Mae’r gwahaniaethau mawr mewn cyfraddau marwolaeth cyn pryd a YLL rhwng yr ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig yn debygol o fod yn ddylanwad y penderfynyddion cymdeithasol iechyd (SDOH). Mae’r SDOH yn gymhleth ac yn arwain at anghydraddoldebau mewn iechyd ar draws poblogaethau. Maent yn cynnwys ffactorau economaidd-gymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol; yn ogystal a rhwydweithiau cymdeithasol a chymunedol. Er bod llawer o ffactorau yn cyfrannu at iechyd, mae’r rhan fwyaf y tu hwnt i reolaeth systemau gofal iechyd fel cyfleoedd cyflogaeth ac addysg ac ansawdd tai. Mae llawer o’r dylanwadau hyn hefyd y tu hwnt i reolaeth unigolyn, er eu bod yn dal i gyfrannu at iechyd unigolyn ac yn effeithio ar y gallu i fyw bywyd iach.    

Mae'n hysbys bod nifer yr achosion o ffactorau risg ymddygiadol, e.e. ysmygu a maeth gwael, yn uwch ymhlith y rhai sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig ac mae hyn yn cyfrannu at ganlyniadau iechyd sy'n gwaethygu. Yn ogystal, mae’r rheiny yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn wynebu mwy o rwystrau yn cael mynediad at ofal iechyd; materion fel llai o argaeledd trafnidiaeth neu lythrennedd iechyd gwael yn arwain at ansicrwydd ynghylch pryd i gael cyngor meddygol. Mae hyn yn arwain at y rheiny mewn ardaloedd difreintiedig i fod â mwy o siawns o gael diagnosis yn hwyrach pan allai clefyd y gellir ei drin fod wedi datblygu ymhellach a’u bod yn colli eu bywyd yn gynnar2.

Mae marwolaeth yn ystod plentyndod yn cyfrannu’n fwy at YLL oherwydd y nifer fwy o flynyddoedd y gallent fod wedi byw. Gan fod plant o dan 5 oed sydd yn byw mewn ardaloedd difreintiedig dros ddwywaith yn fwy tebygol o farw cyn pryd na phlentyn o’r un oed o’r ardaloedd lleiaf difreintiedig, bydd mwy o gyfraniad at YLL mewn ardaloedd difreintiedig3.

Mae anghydraddoldebau iechyd mawr a pharhaus yng Nghymru sydd yn arwain at ganlyniadau iechyd gwaeth a disgwyliad oes is yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ymrwymo i leihau anghydraddoldebau iechyd gyda’r strategaeth hirdymor yn canolbwyntio ar y ffordd y gallwn gael yr effaith fwyaf posibl yn gwella iechyd a lles a lleihau anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru. Mae mwy o wybodaeth yn ymwneud â blaenoriaethau Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gael yma;  Ein Blaenoriaethau - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

Cliciwch yma i weld y Blynyddoedd o Fywyd a Gollwyd.

 

Cyfeiriadau

  1. Years of life lost (YLL) (per 100 000 population), Sefydliad Iechyd y Byd, 2022.  Ar gael yn:  - Years of life lost (YLL) (per 100 000 population) (who.int)
  1. Improving access for all: reducing inequalities in access to general practice services”, GIG Lloegr, 2018. Ar gael yn: https://www.england.nhs.uk/wp-content/uploads/2017/07/inequalities-resource-sep-2018.pdf
  1. “Child Mortality and Social Deprivation”, Cronfa Ddata Genedlaethol Marwolaethau Plant (Lloegr), 2021 Ar gael yn: https://ncmd.info/wp-content/uploads/2021/05/NCMD-Child-Mortality-and-Social-Deprivation-report_20210513.pdf

 

Cysylltu 

Rydym bob amser yn awyddus i wella’r cynnyrch yr ydym yn ei gynhyrchu er mwyn sicrhau eu bod yn gyfeillgar i ddefnyddwyr. Os oes gennych unrhyw sylwadau neu adborth, cysylltwch â ni trwy anfon ebost: arsyllfaiechydcyhoedduscymru@wales.nhs.uk