Mae gofal ailalluogi yn helpu pobl i gynnal neu adennill y sgiliau angenrheidiol i fyw'n annibynnol gartref (1). Mae’n wasanaeth dwys sy’n canolbwyntio ar nodau, a ddarperir yn aml gan weithwyr gofal cymdeithasol dan arweiniad gweithwyr iechyd proffesiynol. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (2) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu’r gwasanaethau hyn.
Mae’r adroddiad byr hwn gan Labordy Data Rhwydwaith (NDL) Cymru yn edrych i weld a all cyfuno data awdurdodau lleol â chofnodion gofal iechyd ein helpu i ddeall mwy am y bobl a gafodd ofal ailalluogi.
Mae NDL Cymru yn bartneriaeth rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru, Iechyd a Gofal Digidol Cymru, Prifysgol Abertawe, a Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae'n un o bum tîm dadansoddi a ariennir gan y Sefydliad Iechyd i ymchwilio i faterion yn y gwasanaethau iechyd a gofal (3).
Ar gyfer yr ymchwil hwn, bu NDL Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol Pen-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf, gan gysylltu data ailalluogi â chofnodion iechyd. Digwyddodd yr holl ddadansoddi data yn yr Amgylchedd Ymchwil Ymddiried (TRE) (4, 5, 6) Banc Data SAIL (Cysylltiad Gwybodaeth Ddienw Ddiogel). Creodd yr ymchwilwyr hefyd grŵp o unigolion â nodweddion tebyg (oedran, rhyw, amddifadedd a lleoliad) i gymharu â'r rhai sy'n cael mynediad at ofal ailalluogi. Helpodd y dull hwn i nodi gwahaniaethau demograffeg a statws iechyd ar gyfer y rhai sy'n defnyddio gwasanaethau ailalluogi.
Canfyddiadau allweddol
- Roedd strwythur a threfniadaeth gwasanaethau gofal ailalluogi yn amrywio rhwng awdurdodau lleol.
- Roedd y rhan fwyaf o bobl a oedd yn cael gofal ailalluogi yn hŷn, yn fenywod yn bennaf, ac mewn iechyd gwaeth na'r rhai nad oeddent yn defnyddio'r gwasanaeth.
- Amrywiodd atgyfeiriadau i ofal ailalluogi fesul awdurdod lleol. Atgyfeiriadau cymunedol oedd y ffynhonnell fwyaf cyffredin o ofal ailalluogi ar draws pob grŵp oedran. Fodd bynnag, gostyngodd cyfran yr atgyfeiriadau cymunedol gydag oedran tra cynyddodd cyfran yr atgyfeiriadau ysbyty.
- Mae'r rhan fwyaf o becynnau gofal ailalluogi yn llwyddo i osgoi'r angen am gynllun gofal hirdymor.
Casgliad
Mae’r astudiaeth hon yn dangos ei bod yn bosibl cysylltu data awdurdodau lleol â chofnodion iechyd dienw er mwyn deall yn well pwy sy’n cael mynediad at ofal ailalluogi yng Nghymru. Fel y gwelwyd yn y data gan StatsCymru, nid oedd y rhan fwyaf o becynnau gofal ailalluogi yn arwain at angen am ofal hirdymor, sy’n awgrymu bod ailalluogi yn cael effaith gadarnhaol.
Fodd bynnag, mae gwahaniaethau mewn systemau data a sut mae gwybodaeth yn cael ei chofnodi gan awdurdodau lleol yng Nghymru yn ei gwneud yn heriol deall y canlyniadau yn llawn. Pe bai awdurdodau lleol yn mabwysiadu diffiniadau data cyffredin, safonau casglu a chofnodi, byddai'n haws cael mewnwelediadau manylach i ganlyniadau iechyd.
Byddai’r defnydd hwn o ddata yn helpu gwasanaethau i ganolbwyntio ar y rhai sydd â’r angen mwyaf, cefnogi pobl i gynnal eu hannibyniaeth a gwerthuso modelau gofal newydd i ysgogi arloesedd iechyd a gofal cymdeithasol.