Mae'r Pwyllgor hwn yn cynghori'r Bwrdd ar dâl a thelerau gwasanaeth ar gyfer y Prif Weithredwr, Cyfarwyddwyr Gweithredol ac uwch staff eraill o fewn y fframwaith a osodwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae'n rhoi sicrwydd i'r Bwrdd am drefniadau'r Ymddiriedolaeth ynghylch tâl a thelerau gwasanaeth, gan gynnwys trefniadau cytundebol ar gyfer yr holl staff, yn unol â'r gofynion a'r safonau a bennir ar gyfer GIG Cymru.
Cynhelir cyfarfodydd y Pwyllgor Tâl a Thelerau Gwasanaeth mewn sesiwn breifat. Adroddir ar gofnodion y cyfarfod yn y cyfarfod canlynol o’r Bwrdd.
Gweld / lawrlwytho'r Cylch Gorchwyl ac Aelodaeth ar gyfer y Pwyllgor Tâl a Thelerau Gwasanaeth yma.
|
Aelodau (Lleiafswm o bedwar) |
|
|
Cadeirydd |
Pippa Britton |
|
Cyfarwyddwyr Anweithredol |
Pob Cyfarwyddwr Anweithredol |
|
Prif Weithredwr |
Tracey Cooper |
|
Yn bresennol (Drwy wahoddiad, yn ôl yr angen, ond fel arfer mae'n cynnwys yr isod) |
|
|
Cyfarwyddwr Datblygu Sefydliadol a Phobl |
Neil Lewis |
|
Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau a Chyllid |
Angela Williams |
|
Ysgrifennydd y Bwrdd a Phennaeth Uned Fusnes y Bwrdd |
Paul Veysey |
Cadeirydd y Pwyllgor sy’n penderfynu pa mor aml y mae'n cyfarfod, gyda chytundeb Aelodau'r Pwyllgor, ond mae disgwyl iddo gyfarfod o leiaf unwaith y flwyddyn.