Neidio i'r prif gynnwy

28 Medi 2023 (Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol)

Rhoddir rhybudd trwy hyn y bydd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Bwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cael ei gynnal Ddydd Iau 28 Medi 2023 am 10am.

Iechyd Cyhoeddus Cymru yw sefydliad iechyd y cyhoedd yng Nghymru ac mae’n Ymddiriedolaeth y GIG. Mae'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn rhoi cyfle i ymgysylltu â ni wrth adolygu cyflawniadau 2021/22 ar draws ein rolau a'n cyfrifoldebau niferus, ac wrth drafod y cyfleoedd a'r heriau sydd o'n blaenau.

Bydd copïau electronig o'r Adroddiad Blynyddol a'r Cyfrifon Archwiliedig ar gael ar y wefan yn Gymraeg ac yn Saesneg. 

Mae Bwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ymrwymo i fod yn agored ac yn dryloyw, ac yn cynnal cymaint o'i fusnes â phosibl mewn sesiwn y mae croeso i aelodau'r cyhoedd ei mynychu a'i harsylwi fel rheol.  Fodd bynnag, yng ngoleuni'r cyngor a'r arweiniad cyfredol mewn perthynas â Coronafeirws (COVID-19) penderfynom ym mis Mawrth 2020 er lles gorau diogelu’r cyhoedd a cytunodd ein staff ac aelodau'r Bwrdd na fyddem bellach yn ymgynnull mewn grwpiau er mwyn cynnal cyfarfodydd.  Ers hynny, rydym wedi bod yn cynnal ein cyfarfodydd Bwrdd yn rhithwir.

Rydym yn falch o ddweud y byddwn yn ffrydio ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn fyw ar 27 Gorffennaf 2023 i roi'r cyfle i unrhyw un sydd â mynediad at y rhyngrwyd wylio’r cyfarfod mewn amser real. Mae'r ddolen i'r cyfarfod wedi'i chynnwys isod a bydd hefyd yn cael ei rhannu ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Fel mynychwyr, byddwch yn gallu gwylio’r cyfarfod drwy Microsoft Teams bwrdd gwaith (Windows neu Mac), ar y we, neu declyn symudol. Os nad oes gennych Microsoft Teams, gallwch hefyd ddefnyddio porwr (Chrome, Firefox neu Edge). Noder nad yw Safari yn gweithio ar hyn o bryd.

 

Mae recordiad o'r cyfarfod ar gael i'w weld yma:

 

 

Papurau Cyfarfodydd Bwrdd

Mae copïau electronig o'r papurau ar gael ac yn hygyrch i'w lawrlwytho o wefan Bwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru 10 diwrnod calendr cyn y cyfarfod trwy'r ddolen ganlynol:

Dolen i Bapurau'r Bwrdd

 

 

Os hoffech fynychu cyfarfod Bwrdd yn bersonol, cysylltwch â Iechyd Cyhoeddus Cymru.

 

Cwestiynau

Mae croeso i chi ofyn cwestiynau i’r Bwrdd a gallwch eu cyflwyno ymlaen llaw trwy eu hanfon trwy e-bost at y tîm dridiau cyn y cyfarfod. A fyddech cystal â chyflwyno pob cwestiwn erbyn 5pm ddydd Llun 25 Medi 2023 i PHW_Board.Business@wales.nhs.uk