Roedd 86 o farwolaethau sy'n gysylltiedig â dŵr yng Nghymru ymhlith plant a phobl ifanc dan 25 oed rhwng 2013 a 2022; Roedd 62 ohonynt yn anfwriadol.
Yn achos y marwolaethau anfwriadol, digwyddodd bron i hanner (47%) y marwolaethau yn ystod Mehefin, Gorffennaf ac Awst, a dydd Sul oedd y diwrnod mwyaf cyffredin i hyn ddigwydd. Roedd 79% o'r plant a'r bobl ifanc yn fechgyn a dynion.
Digwyddodd dros hanner (58%) y marwolaethau yn y grŵp oedran 18-24 oed, er bod cyfran y bobl ifanc yn y grŵp oedran hwn yn cyfrif am lai na thraean o boblogaeth plant a phobl ifanc 0-24 oed, felly roedd y grŵp oedran hwn yn cael ei orgynrychioli. Nodwyd presenoldeb cyffuriau neu alcohol mewn bron i hanner (47%) y marwolaethau yn y grŵp oedran 18-24 oed.
Roedd bron i hanner y plant a'r bobl ifanc (44%) yn cymryd rhan mewn gweithgareddau lle nad oeddent wedi bwriadu mynd i mewn i'r dŵr pan ddigwyddodd y digwyddiad angheuol.
Digwyddodd traean o'r marwolaethau mewn afon a digwyddodd traean ar yr arfordir, y lan neu'r traeth a digwyddodd dros hanner y marwolaethau mewn pump allan o 22 awdurdod lleol.
Bydd y wybodaeth hon yn ddefnyddiol i weithwyr proffesiynol y maes diogelwch dŵr er mwyn llywio eu gwaith atal er mwyn lleihau nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â dŵr ymhlith plant a phobl ifanc.