Byddwn yn gweithio gyda rhieni a gwasanaethau i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn yng Nghymru.
Mae’r blynyddoedd cynnar yn cael eu diffinio mewn polisi yng Nghymru fel y cofnod rhwng beichiogrwydd a saith mlwydd oed. Mae blynyddoedd cynnar plentyn yn amser allweddol i sicrhau canlyniadau da yn ddiweddarach mewn bywyd gan gynnwys dysgu gwell, mynediad at waith da a bywyd boddhaol.
Erbyn 2030, rydym:
- am weld mwy o blant yn cyrraedd eu llawn botensial
- eisiau ein bod wedi cefnogi rhieni i fagu eu plant a bod llai o blant yng Nghymru yn cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs)
Mae hyn yn golygu:
- cefnogi teuluoedd i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant
- helpu plant i deimlo’n ddiogel drwy atal trawma emosiynol a phwysau niweidiol (atal ACEs)
- hwyluso perthnasau cefnogol rhwng oedolion a phlant
- cefnogi gwasanaethau’r blynyddoedd cynnar a hyrwyddo llesiant plant
Erbyn 2030, byddwn wedi:
- ceisio sicrhau bod gan bob plentyn y dechrau gorau mewn bywyd a byddwn wedi hyrwyddo a chefnogi system cefnogaeth integredig wedi’i seilio ar y boblogaeth i rieni a theuluoedd
- wedi cynyddu’r gyfran o leoliadau sy’n cymryd camau i hyrwyddo iechyd yn y blynyddoedd cynnar
- wedi gweithio gyda phartneriaid i leihau camdriniaeth ac esgeuluso plant